Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/07/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau na dirprwyon. Cyn y cyfarfod,
cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod yn rhithwir yn hytrach na wyneb yn wyneb fel y
nodwyd yn wreiddiol ar yr agenda a gyhoeddwyd.
|
|
13.30-13.35 |
Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 Dogfennau ategol: |
|
Offerynnau’r
Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)216 - Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 1) 2022 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
Offerynnau’r
Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol |
||
SL(6)221 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(6)223 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
13.35-13.40 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
Offerynnau’r
Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)217 - Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)218 - Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)219 - Rheoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)220 - Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
Offerynnau’r
Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol |
||
SL(6)228 - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
13.40 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)213 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd a
nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)207 - Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd a
nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)212 – Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd a
nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
13.40-13.45 |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Presenoldeb mewn Cyfarfod Rhynglywodraethol ar 16 Mehefin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r
Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Rheoliadau Asiantaethau’r UE (Dirymiadau) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a chytunodd y byddai’n ysgrifennu
at y Gweinidog ynghylch nifer o faterion. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 15 Mehefin 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
13.45-13.50 |
Papurau i'w nodi |
|
Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dangosfwrdd Rhyngweithiol Cyfraith yr UE a Ddargedwir Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor
Cyllid. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i’r Prif Weinidog: Datganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog: Bil llywodraethu amgylcheddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at y
Prif Weinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Bil Hawliau Llywodraeth y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol at y Llywydd. |
||
13.50 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
13.50-14.00 |
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Protocol Gogledd Iwerddon Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y papur briffio ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon a nododd y llythyr
gan Weinidog yr Economi at y Llywydd. |
|
14.00-14.15 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Banc Seilwaith y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch Bil Banc Seilwaith y DU
a’r Nodyn Cyngor Cyfreithiol. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol, cyn ystyried ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y
dyfodol. |
|
14.15-14.30 |
Cymru yn y DU - deddfu mewn cyd-destun cyfansoddiadol sy'n newid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn
ystyried crynodeb thematig o'r trafodaethau a gynhaliwyd yn ei ddigwyddiad i
randdeiliaid 'Cymru yn y DU - deddfu mewn cyd-destun cyfansoddiadol sy'n newid'
a chytunodd i gyhoeddi'r crynodeb a'r papur cefndirol sy'n cyd-fynd ag ef. |
|
14.30 - 14.45 |
Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y papur briffio a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion. |
|
14.45 - 15.05 |
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Dull gweithredu ar gyfer craffu (yn amodol ar gyflwyno'r Bil) Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei ddull o graffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a chytunwyd
ar hyn. |