Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Bil Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Mick
Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, o dan Reol Sefydlog 26C – Deddfau Cydgrynhoi y
Senedd. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad.
Gwybodaeth am y Bil
Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth i gydgrynhoi deddfwriaeth sy’n ymwneud ag
amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’n darparu ar gyfer diogelu henebion, adeiladau
ac ardaloedd cadwraeth drwy ddwyn ynghyd ac ailddatgan deddfwriaeth sy’n bodoli
eisoes (deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth) mewn un man.
Mae rhagor o fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm Esboniadol sy'n
cyd-fynd ag ef.
Cyfnod presennol
Mae’r Bil yn cael ei ystyried yn gychwynnol ar hyn o bryd. Mae canllaw i
Filiau Cydgrynhoi ar gael yn y Canllawiau
i gefnogi gweithrediad Rheol Sefydlog 26C ar Filiau Cydgrynhoi.
Cofnod o Daith y Bil yn Senedd Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil
drwy Senedd Cymru.
¬¬¬Yr Ystyriaeth Gychwynnol (Presennol)
Cytunodd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei hagwedd tuag at Ystyriaeth Gychwynnol ar 4 Gorffennaf 2022.
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i graffu ar y Bil yn unol â Rheol Sefydlog
26C.17, sef y bydd yn ystyried:
i. a yw'n fodlon bod cwmpas y gwaith cydgrynhoi yn briodol;
ii. a yw'n fodlon bod y deddfiadau perthnasol wedi'u cynnwys wrth
gydgrynhoi;
iii a yw'r Bil yn cydgrynhoi'r deddfiadau yn gywir neu a yw'n newid eu
heffaith gyfreithiol o ran sylwedd i'r graddau a ganiateir gan Reol Sefydlog
26C.2 yn unig;
iv. a yw'r Bil yn cydgrynhoi'r gyfraith yn glir ac yn gyson.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw fater arall y mae’n credu ei fod
yn berthnasol i Reol Sefydlog 26C.
Dyddiadau’r Pwyllgor
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
Dyddiad ac agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
Ystyried y dull gweithredu o ran yr ystyriaeth
gychwynnol (Preifat) |
(Preifat) |
(Preifat) |
|
Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog |
zzz
¬¬¬Cyflwyno'r Bil (4 Gorffennaf 2022)
Bil yr
Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Memorandwm
Esboniadol: Atodiad A – Nodiadau Esboniadol
Memorandwm
Esboniadol: Atodiad B1 – Tabl Tarddiadau
Memorandwm
Esboniadol: Atodiad B2 – Table Trawsleoli
Memorandwm
Esboniadol: Atodiad D - Gohebiaeth oddi wrth Gomisiwn y Gyfraith
Datganiad
y Llywydd
Adroddiad y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil
zzz
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Sarah Sargent
E-bost: SeneddDCC@senedd.cymru
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Cyfnod 1
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2022