Pobl y Senedd

Mick Antoniw AS

Mick Antoniw AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Pontypridd

Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Mick Antoniw yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Mick Antoniw yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

 

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Ta...

I'w drafod ar 15/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y ‌Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr T...

I'w drafod ar 15/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o d...

I'w drafod ar 15/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaeth yn y ‌Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel...

I'w drafod ar 05/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Ta...

I'w drafod ar 05/03/2024

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) Gosodwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cy...

I'w drafod ar 30/01/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mick Antoniw AS

Bywgraffiad

Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Mick Antoniw yn un o sylfaenwyr Sefydliad Bevan. Mae hefyd yn gyn-ymddiriedolwr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru. Ef yw Is-lywydd Ymddiriedolaeth Gymunedol Brynsadler ym Mhont-y-clun ac mae’n Ymddiriedolwr i’r elusen cynghori ieuenctid, Eye-to-eye, ym Meddau. Mae hefyd yn aelod o sefydliad Gwreiddiau Llafur Cymru, y Blaid Gydweithredol, y GMB ac Undeb y Cerddorion.

Yn ei etholaeth, mae Mick yn canolbwyntio ar sicrhau tegwch a chyfiawnder cymdeithasol i bobl sy’n gweithio ac ar wella seilwaith, yn enwedig ym maes trafnidiaeth. Mae’n ymgysylltu’n eang ar draws ei etholaeth, ac mae’n falch o fod wedi helpu llawer o unigolion a grwpiau i wella eu hardal leol.

Hanes personol

Cafodd Mick ei fagu yn Reading, gan symud i Gymru i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1973. Mae’n caru Cymru a dyma lle y cwrddodd â’i wraig Elaine, felly yma y mae wedi byth oddi ar hynny.  Ffoadur o’r Wcráin ar ôl y rhyfel oedd tad Mick; dysgodd Wcreineg iddo, iaith y mae’n rhugl ynddi. Mae Mick yn cael gwersi Cymraeg pryd bynnag y bo modd, ond mae ganddo rywfaint i fynd cyn y bydd yn rhugl mewn tair iaith!

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei ethol yn Aelod Cynulliad yn 2011, roedd Mick yn bartner yn Thompsons, cwmni cyfreithwyr ym maes Undebau Llafur, lle’r oedd yn cynrychioli pobl Pontypridd ac ardal Rhondda Cynon Taf yn rheolaidd. Trwy ei waith achos, aeth i’r pyllau glo yn Nantgarw a Chwm, a bu’n cynrychioli’r South Wales Forgemasters a Brown Lenox ymhlith eraill. O ganlyniad, mae wedi gweld nifer o newidiadau yn yr etholaeth dros y blynyddoedd.

Ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr ym 1980, bu Mick yn arbenigo mewn anafiadau i’r asgwrn cefn a’r pen, yn ogystal ag achosion o ddynladdiad corfforaethol.  Mae’n gymrawd gwadd ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest, ac mae wedi darlithio’n eang ledled Cymru, yn y DU ac yn rhyngwladol ym meysydd iechyd a diogelwch a diwygio’r gyfraith.

Hanes gwleidyddol

Mae Mick wedi bod yn gwasanaethu pobl Pontypridd a Thaf Elái fel Aelod Cynulliad er 2011. Cafodd ei ail-ethol yn 2016.

Gwasanaethodd Mick fel Cwnsler Cyffredinol Cymru o fis Mehefin 2016 tan fis Tachwedd 2017.

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (2011 - 2016), bu Mick yn aelod o Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, ac ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Mae Mick yn cymryd rhan mewn nifer o grwpiau trawsbleidiol.

Rhwng 2012 a 2015, bu Mick yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar Bwyllgor Rhanbarthau’r Undeb Ewropeaidd. Cafodd ei ailbenodi i’r rôl yn 2017.

Rhwng 1977 a 1979, Mick oedd Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (Cymru) ac yn fuan wedyn, rhwng 1981 a 1989 roedd yn aelod o Gyngor Sir De Morgannwg.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mick Antoniw AS