Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Protocol Gogledd Iwerddon
Cyflwynwyd y Bil Protocol Gogledd Iwerddon
(y Bil) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 13 Mehefin 2022.
Mae teitl hir y Bil
yn nodi mai diben y Bil yw gwneud darpariaeth ynghylch effaith y Protocol ar
Iwerddon / Gogledd Iwerddon yng nghyfraith ddomestig yng nghytundeb ymadael yr
UE, am gyfraith ddomestig arall mewn meysydd pwnc y mae'r Protocol yn ymdrin â
hwy ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29 .Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Medi 2022
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF
267KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 29 Medi 2022.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, Pwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno
erbyn 7 Tachwedd 2022 (PDF 49.2KB).
Ar 28 Hydref
2022, cytunodd
(PDF 51.5KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 14 Tachwedd 2022.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol ei adroddiad
ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 27 Hydref 2022.
Ar 8 Tachwedd 2022, cytunodd (PDF
40KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 21 Tachwedd 2022.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 235 KB) ar 9 Tachwedd 2022.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/06/2022
Dogfennau