Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/07/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

Cyn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod yn rhithwir yn hytrach na wyneb yn wyneb fel y nodwyd yn wreiddiol ar yr agenda a gyhoeddwyd. 

 

13.30-13.35

2.

Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

Dogfennau ategol:

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

 

 

2.1

SL(6)216 - Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 1) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

 

 

 

2.2

SL(6)221 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

2.3

SL(6)223 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

13.35-13.40

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

 

 

3.1

SL(6)217 - Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(6)218 - Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.3

SL(6)219 - Rheoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.4

SL(6)220 - Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

 

 

 

3.5

SL(6)228 - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

13.40

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(6)213 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

4.2

SL(6)207 - Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

4.3

SL(6)212 – Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

13.40-13.45

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Presenoldeb mewn Cyfarfod Rhynglywodraethol ar 16 Mehefin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

 

5.2

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Rheoliadau Asiantaethau’r UE (Dirymiadau) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

 

5.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a chytunodd y byddai’n ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch nifer o faterion.

 

5.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 15 Mehefin 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

13.45-13.50

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dangosfwrdd Rhyngweithiol Cyfraith yr UE a Ddargedwir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

6.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

6.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd.

 

6.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

 

6.5

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd.

 

6.6

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i’r Prif Weinidog: Datganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog: Bil llywodraethu amgylcheddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at y Prif Weinidog.

 

6.7

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Bil Hawliau Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Llywydd.

 

13.50

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

13.50-14.00

8.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Protocol Gogledd Iwerddon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur briffio ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon a nododd y llythyr gan Weinidog yr Economi at y Llywydd.

 

14.00-14.15

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Banc Seilwaith y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch Bil Banc Seilwaith y DU a’r Nodyn Cyngor Cyfreithiol. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, cyn ystyried ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

14.15-14.30

10.

Cymru yn y DU - deddfu mewn cyd-destun cyfansoddiadol sy'n newid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried crynodeb thematig o'r trafodaethau a gynhaliwyd yn ei ddigwyddiad i randdeiliaid 'Cymru yn y DU - deddfu mewn cyd-destun cyfansoddiadol sy'n newid' a chytunodd i gyhoeddi'r crynodeb a'r papur cefndirol sy'n cyd-fynd ag ef.

 

14.30 - 14.45

11.

Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur briffio a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

 

14.45 - 15.05

12.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Dull gweithredu ar gyfer craffu (yn amodol ar gyflwyno'r Bil)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a chytunwyd ar hyn.