Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriad gan Neil McEvoy. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-827 Y ffyrdd o amgylch Trago Mills/Parc Manwerthu Cyfarthfa Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: aros am
farn y deisebydd am y wybodaeth a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn trafod
a ddylid cymryd rhagor o gamau ar y ddeiseb. |
|
P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-830 Ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn, yn Amser Llawn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf
a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i
ddilyn gohebiaeth y cyfeiriwyd ati gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol, a cheisio ymateb i'r materion a godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r enghreifftiau a roddwyd gan y deisebwyr a
gofyn am arwydd o'r amserlenni ar gyfer penderfynu ar fuddion y cynllun ar
gyfer 2018/19. |
|
P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i
ofyn am ragor o wybodaeth am yr adolygiad o'r Cod Derbyn i Ysgolion, gan
gynnwys ei gwmpas a'i amserlenni arfaethedig, cyn trafod rhagor o gamau ar y
ddeiseb. |
|
P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer
dadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig
diweddar gan y Llywydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y ddeddfwriaeth a
gyhoeddwyd i ostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16 oed ar gyfer etholiadau'r
Cynulliad ac awdurdodau lleol, a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.
|
|
P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a'r deisebydd a chytunodd i
ysgrifennu yn ôl at Arweinydd y Tŷ i ofyn i'r Pwyllgor gael gwybod pan
fydd y dadansoddiad o ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar y Canllawiau
Comisiynu Rhanbarthol yn cael ei gyhoeddi cyn trafod y ddeiseb ymhellach yn
sgil hynny. |
|
P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â
P-04-433 a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn:
|
|
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â
P-04-433 a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn:
|
|
P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog
yr Amgylchedd a'r deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog i'r
ymgynghoriad diweddar ar Reoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol, a rhagor o
fanylion am ei dull arfaethedig o gael mynediad at ddiwygio, yn ddiweddarach yn
y flwyddyn. |
|
P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Ddatganiad
Deddfwriaethol diweddar y Prif Weinidog, ynghyd â sylwadau'r deisebydd, a
chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno
deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn ystod y 12
mis nesaf. Roedd y Pwyllgor hefyd am longyfarch y deisebydd a'i chefnogwyr ar
lwyddiant eu hymgyrch ar y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y
wybodaeth ychwanegol a geisir gan y deisebydd. |
|
P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota arfaethedig Newydd a methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â
P-05-810 a chytunodd i gadw briff gwylio ar y mater yn ystod yr ymchwiliad
cynllunio lleol a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. |
|
P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â
P-05-809 a chytunodd i gadw briff gwylio ar y mater yn ystod yr ymchwiliad
cynllunio lleol a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. |
|
P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
randdeiliaid a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth a gafwyd,
cyn trafod rhagor o gamau ar y ddeiseb. |
|
P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cyfoeth
Naturiol Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:
|
|
P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â
deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a
gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y
deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad
Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd
llawer o gamau pendant eraill. |
|
P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â
deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a
gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y
deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad
Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd
llawer o gamau pendant eraill. |
|
P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i
gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu
hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na
allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill. |
|
P-05-820 Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i gau'r
ddeiseb yn sgil ymrwymiad a wnaed na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig
i leihau gwasanaethau i orsaf Castell-nedd, nac oddi yno, a llongyfarch y
deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch wrth wneud hynny. |
|
P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau gan y
deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a
oes cynlluniau, ar hyn o bryd, i wella'r A487 o ystyried ei phwysigrwydd
strategol a'r ffaith ei bod yn mynd drwy nifer fawr o bentrefi lle mae pryderon
ynglŷn â chyflymder y traffig. |
|
P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor
Iechyd Cymuned Gogledd Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am bwnc y ddeiseb ers
gohebiaeth flaenorol, ac am fanylion ei ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion
Adolygiad Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru i brofiad cleifion mewn Adrannau
Damweiniau ac Achosion Brys a ffigurau diweddar sy'n ymwneud ag amseroedd aros
yn Ysbyty Wrecsam Maelor. |
|
P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog
Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg, ynghyd â sylwadau'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Cafcass Cymru
i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu canllawiau arfer newydd ac am
fanylion sut yr ystyrir mabwysiadu dull Cafcass yn Lloegr, yn sgil y pryderon a
fynegwyd gan y deisebwyr. |
|
P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd a
chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb i'r Pwyllgor ei drafod. |
|
P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunodd i aros am ragor o wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
fel y cynigiwyd yn ei ohebiaeth ddiweddaraf. |
|
P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd
Iechyd Hywel Dda a chytunodd i drafod y ddeiseb eto yn dilyn y ddadl sydd i'w
chynnal ar y ddeiseb hon yn fuan a chyfarfod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
ar 26 Medi. |
|
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Cymwysterau Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros
Addysg i rannu'r farn a fynegwyd gan y deisebydd a gofyn am safbwynt
Llywodraeth Cymru ar y polisi a amlinellwyd gan Cymwysterau Cymru mewn
perthynas â phynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. |
|
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y
deisebydd a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiwetharaf gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg am waith sydd ar droed er mwyn:
|
|
P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r deisebydd a chytunodd i rannu copi o
adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y mater hwn. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i dynnu
sylw at y ddeiseb pan fydd y Pwyllgor hwnnw yn craffu'n fuan ar gyllideb
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20. |
|
P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf am drafodaethau'r DU ynghylch datblygu treth bosibl ar blastigau
untro pan fo'n briodol. |
|
P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer gweddill y cyfarfod heddiw: Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Adroddiad drafft - P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft ar
y ddeiseb. |