P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Wedi'i gwblhau

 

P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Victoria Kragiel, ar ôl casglu 1,943 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau Larsen (maglau dal mwy nag un frân).

Cawell a rennir yn sawl rhan yw magl Larsen; cedwir aderyn gwyllt byw (yr aderyn denu) yn gaeth mewn un rhan ohoni er mwyn denu adar eraill. Pan fydd aderyn arall yn glanio ar y fagl, mae’n disgyn i mewn trwy gât unffordd neu lawr ffug, lle y bydd yn aros ei dynged.

Dyfeisiwyd maglau Larsen yn Nenmarc, ond fe’u gwaharddwyd yn y wlad honno gan eu bod bellach yn cael eu hystyried yn bethau creulon iawn.

Ciperiaid a thyddynwyr sy’n defnyddio maglau Larsen yn bennaf, a hynny er mwyn dal pïod, brain ac aelodau eraill o deulu’r frân. Mae’n brofiad erchyll i’r aderyn gan iddo gael ei ddal ddydd a nos heb fwyd, dŵr na chysgod rhag y tywydd, ac mae hynny’n peri gofid eithafol.

Oherwydd eu bod yn defnyddio aderyn gwyllt caeth (sy’n mynd yn groes, yn dechnegol, i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) rhaid defnyddio’r maglau hyn o dan delerau “Trwydded Gyffredinol”, a geir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n caniatáu dal pïod, brain, sgrechod y coed, corfrain, ac ydfrain. 

Mae’n brofiad pur ofnadwy i’r “adar denu” gwyllt gan fod eu cyfyngu yn y modd hwn yn gamdriniaeth ac yn rhwystredigaeth o ran hanfodion eu hymddygiad. A hwythau’n agos i’r ddaear, mae ysglyfaethwyr yn codi braw arnynt a rhaid iddynt wylio wrth i adar eraill gael eu lladd mewn ffordd ddienaid o flaen eu llygaid. Mae sawl un yn marw trwy esgeulustod.
O dan y gyfraith, dylai fod gan aderyn denu caeth fwyd, dŵr, cysgod a chlwyd, a dylid archwilio’r maglau o leiaf bob 24 awr, ond nid dyna sy’n digwydd. Rydym wedi gweld brain a adawyd i farw heb fwyd na dŵr, ac rydym wedi dod o hyd i gyrff adar denu yn pydru, a’r adar hynny wedi clymu’n barhaol â gwifrau hyd nes eu bod yn marw drwy newyn neu straen.
Rydym wedi gweld adar sydd wedi torri eu pigau ac wedi anafu eu pennau trwy geisio dianc. Gwelsom greulondeb, llurgunio a chlwyfo lle mae’r cipar wedi torri plu hedfan yr aderyn denu i’w gadw rhag dianc.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae’r maglu yn digwydd trwy fisoedd yr haf ac, o’r herwydd, mae miloedd o gywion yn newynu i farwolaeth yn y nyth am fod y rhieni’n cael eu dal.

Nid yw maglau Larsen yn gwahaniaethu; gallant ddal adar o bob math a mamaliaid. Weithiau, er ei bod yn anghyfreithlon, defnyddir colomennod er mwyn denu ac yna lladd adar ysglyfaethus.

Mae dal adar gwyllt mewn maglau adar byw a defnyddio adar denu byw yn peri dioddefaint ofnadwy i’r adar anffodus.

Rydym yn cymell rhoi stop ar y ffordd hon o erlid bywyd gwyllt.

 

Crow

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 05/11/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried y defnydd o faglau Larsen fel rhan o adolygiad ehangach o'r holl drwyddedu adar gwyllt yn 2020, a chau'r ddeiseb yng ngoleuni'r gwaith craffu a fydd yn cael ei gymhwyso i'r arfer hwn drwy’r broses honno.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/05/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/05/2018