P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!
P-05-826
Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys
Llwynhelyg!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Myles Bamford-Lewis, ar ôl
casglu 40,045 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Lywodraeth
Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i wrthdroi eu penderfyniad i israddio ein
hysbyty sirol a chael gwared ar ein hadran damweiniau ac achosion brys.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cynnig newidiadau
sylweddol i’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu mewn ysbytai yng
ngorllewin Cymru. Maent yn cynnig israddio ysbyty cyffredinol Llwynhelyg yn ein
sir ni ac ysbyty cyffredinol Glangwili yn sir Gâr, y ddau i safon ysbytai
cymuned, ac adeiladu ysbyty cyffredinol newydd yn ardal Hendy-gwyn ar Daf. Fodd
bynnag, mae hyn hefyd yn golygu na fydd gennym bellach adran damweiniau ac
achosion brys sy’n gweithredu’n llawn yn ein sir oherwydd y bydd yr adran hon
wedi’i disodli gan uned mân anafiadau ar safle Llwynhelyg. O ganlyniad, bydd
cleifion y mae angen gofal brys arnynt yn ein sir yn wynebu teithio am hyd at
awr, neu efallai hyd yn oed yn fwy os ydynt yn byw yn ardaloedd mwy gwledig ein
sir, i gael gofal brys a all achub bywyd mewn ysbyty a fydd y tu allan i’r sir.
Byddai’r oedi hwn yn golygu bod bywydau yn sir Benfro mewn perygl, heb ystyried
yr oedi ychwanegol wrth orfod aros am ambiwlans i gyrraedd y claf, sefydlogi’r
claf, wedyn cludo’r claf i ysbyty sydd y tu hwnt i ffiniau ein sir. Mae hyn yn
golygu colli munudau hanfodol mewn sefyllfa lle nad oes amser i’w golli.
Mae bod heb adran damweiniau ac achosion brys yn ein sir
yn hollol annerbyniol, a’r rheswm am y cynnig yw torri costau ac, yn bwysicach
oll, torri corneli. Wel, byddwn ni’n sefyll cornel sir Benfro ac ni fyddwn yn
caniatáu iddynt ein torri ni o’r map!
Llofnodwch a rhannwch y ddeiseb hon. Ni allwn adael i
Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda gymryd ased pennaf ein sir oddi
wrthym. Maen nhw eisoes wedi mynd â’r uned gofal arbennig babanod, yr uned
famolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol a’r gwasanaeth gofal pediatrig 24
awr oddi wrthym, gan roi ein babanod, ein plant a’n mamau mewn perygl mawr! Nawr
maent yn dod i orffen y gwaith gyda gweddill gwasanaethau ysbyty ein sir.
Peidiwch â gadael i hynny ddigwydd!
Gyda’n gilydd, byddwn yn anfon neges at Steve Moore a
Vaughan Gething y gallant feddwl eto os ydynt yn credu y bydd sir Benfro yn
ildio heb frwydro’n ôl wrth iddynt fynd â’n gwasanaethau ysbyty oddi wrthym!
Achub adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! Achub
Ysbyty Llwynhelyg!
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw ohebiaeth wedi dod i law gan y deisebydd
a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil hynny.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Preseli Sir Benfro
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2018