P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Charles Dodman ar ôl
casglu 14 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rwy'n galw ar Gynulliad Cymru i drafod a
gweithredu mesurau i fynd i'r afael ag amseroedd aros annerbyniol ar gyfer pobl
Cymru yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor. Mae
pobl Cymru yn ymddangos yn ddigalon ac wedi'u tanseilio oherwydd y sefyllfa
annerbyniol hon.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/10/2019
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth
ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i'w chau’n awr o ystyried y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith yn Ysbyty
Wrecsam Maelor a'r ffaith bod y Bwrdd Iechyd yn darparu adroddiadau’n rheolaidd
ar ei berfformiad i'r Cyngor Iechyd Cymunedol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 17/01/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Wrecsam
- Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2017