P-05-827 Y ffyrdd o amgylch Trago Mills/Parc Manwerthu Cyfarthfa
P-05-827 Y ffyrdd o amgylch Trago
Mills/Parc Manwerthu Cyfarthfa
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rowan Powell, ar ôl casglu
141 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i edrych ar y
mater o draffig cynyddol ar yr A470 o gwmpas cyffiniau Trago Mills a Pharc
Manwerthu Cyfarthfa, a rhoi system draffig newydd ar waith i liniaru'r swm o
draffig a welir yn ystod yr oriau brig, a all wedyn ddatrys y problemau parhaus
sy'n wynebu trigolion.
Agorodd
Trago Mills ei ddrysau oddeutu pythefnos yn ôl i'r cyhoedd. Byth ers i Trago
Mills agor, cafwyd problemau cyson o ran traffig cynyddol yng nghyffiniau Trago
Mills a Pharc Manwerthu Cyfarthfa. Yn ogystal ag yn ystod y penwythnosau, mae
hefyd yn digwydd yng nghanol yr wythnos.
Pan
ddaethpwyd â'r mater hwn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth yn wreiddiol beth amser yn ôl cyn i Trago Mills agor, dywedodd yn
bersonol mewn llythyr y byddai'r A470 yn gallu cymryd pwysau'r traffig i mewn
ac allan o'r ardal, ond yn anffodus nid dyma'r sefyllfa. Nid yw'r traffig sy'n
cronni ar brif gylchfan yr A470 yn gallu atal y llwyth traffig sy'n mynd yn
uniongyrchol i Barc Manwerthu Cyfarthfa a Trago Mills. Mae hyn yn anghyfleus
i'r trigolion hynny sydd eisoes yn byw yn agos at yr ardal, ac mae hefyd yn
effeithio ar fusnesau lleol yn yr ardal ac yn effeithio ar yr economi oherwydd
bod ymwelwyr yn osgoi'r ardal.
A wnewch
chi edrych ar y mater dan sylw eto gan fod angen gweithredu'n uniongyrchol i
ddatrys y broblem hon.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn
anodd gweld sut y gallai'r fynd â'r mater yn ei flaen yn sgil diffyg cyswllt
gan y deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 25/09/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Merthyr Tudful a Rhymni
·
Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Gwelliant
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2018