P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

Wedi'i gwblhau

 

P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Reuben Woodford, ar ôl casglu 1,710 o lofnodion ar wefan e-Ddeiseb arall.

 

Geiriad y ddeiseb

Rhwystro’r gormodedd o ddal a chadw Eogiaid drwy weithredu cyfyngiadau ar fagiau dal a chadw ar bob afon yng Nghymru am y 4 blynedd nesaf ar sail data penodol i dalgylch mewn ymgynghoriad agos â chlybiau pysgota.

Gweithredu rhaglen stocio gynhwysfawr o bysgod brodorol ar bob afon.

Tynhau a gweithredu deddfwriaeth bresennol er mwyn dileu’r bygythiad o lygredd ffermio a llygredd diwydiant.

Rhwystro pob math o bysgota rhwydi masnachol ar raddfa fawr a gweithrediadau lllongau ffactri o amgylch arfordir Cymru am gyfnod o 10 mlynedd.

Blaenoriaethu dyrannu adnoddau i gynorthwyo i reoli materion sy’n benodol i dalgylchoedd sy’n gysylltiedig â chyfraddau ysglyfaethu naturiol gormodol a rhwystrau rhag ymfudiad pysgod.

 

Title: Llun pysgota

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/09/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad a gohebiaeth bellach, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer o gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd yn dilyn yr ymchwiliad manwl i'r Is-ddeddfau arfaethedig a gynhaliwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a phenderfyniad y Gweinidog i gadarnhau'r Is-ddeddfau.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/05/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Arfon

·         Gogledd Cymru                  

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/04/2018