P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Antony Foulkes, ar ôl casglu
52 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau effeithiol i arafu traffig ar hyd
cefnffordd yr A487 sy'n dirwyn yn uniongyrchol drwy ganol pentrefi cyfagos Tre
Taliesin a Thre'r Ddôl, ac i ymgynghori â'r trigolion sy'n byw yn y pentrefi hyn
a cheisio'u barn.
Yr A487
yw'r brif gefnffordd rhwng y gogledd a'r de ac mae'n dirwyn ar hyd arfordir
gorllewin Cymru. Mae nifer fawr a chynyddol o gerbydau sy'n goryrru a thraffig
nwyddau trwm yn teithio ar hyd y gefnffordd hon drwy ganol pentrefi cul Tre
Taliesin a Thre'r Ddôl yng Ngheredigion. Ddiwedd 2016, ffurfiwyd Grŵp
Gweithredu Taliesin A487 gan y pentrefwyr. Mae'r grŵp gweithredu lleol
wedi cyfarfod a chyfathrebu'n agos â Chyngor Cymuned Llangynfelyn, Heddlu Dyfed
Powys, Cyngor Sir Ceredigion a'r Aelod Seneddol lleol i gynnal dadansoddiad o'r
problemau a'r atebion posibl. Mae'r grŵp hefyd wedi mynegi'i bryderon wrth
Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd-orllewin Cymru, ac wedi cynnig cyfarfod â hi i
gyfleu eu safbwyntiau, ond ni dderbyniwyd y gwahoddiad hyd yma.
Mae'n bwysig
bod llais pentrefwyr sy'n byw o ddydd i ddydd gyda thraffig sy'n goryrru yn
cael ei glywed a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried eu safbwyntiau'n llawn, er
mwyn i fesurau arafu traffig effeithiol, sy'n diogelu pentrefwyr a defnyddwyr y
ffordd, gael eu cynllunio a'u rhoi ar waith.
Heol
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/09/2018
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/07/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
·
Ceredigion
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2017