P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf
P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf
P-05-832
Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Flexible
Admissions Wales Group, ar ôl casglu 241 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried diwygio'r Cod Derbyn
i Ysgolion lle y mae'n ymwneud â derbyn plant y tu allan i'r grŵp oedran
arferol, mewn perthynas â phlant a anwyd yn ystod yr haf (1 Ebrill – 31 Awst).
Oherwydd amseriad cyfnodau dechrau mewn ysgolion, mae plant a anwyd yn ystod yr
haf o dan anfantais sylweddol o gymharu â'u cyfoedion. Efallai y byddant yn
dioddef effeithiau emosiynol ac addysgol niweidiol wrth iddynt ddechrau eu
haddysg ffurfiol lawer yn iau. Gyda hynny mewn golwg, efallai y bydd rhieni yn
dewis gohirio pryd y bydd plant a anwyd yn ystod yr haf yn dechrau yn yr ysgol
hyd nes iddynt gyrraedd oedran ysgol gorfodol, yn unol â'u hawliau cyfreithiol.
Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf yn canfod bod eu plant wedyn yn cael eu rhoi mewn
dosbarth ym Mlwyddyn 1 yn syth, gan golli'r flwyddyn Derbyn hanfodol, sef y
flwyddyn bwysicaf mewn addysg yn ôl gwaith ymchwil.
Mae'n well gan y rhan fwyaf o rieni i'w plant fynd i'r flwyddyn Derbyn pan
fyddant yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol yn hytrach na Blwyddyn 1. O dan y Cod
Derbyn i Ysgolion, mae hyn yn bosibl mewn theori. Mewn egwyddor, mae'r Cod yn
rhoi'r gallu i rieni ofyn i'w plant a anwyd yn ystod yr haf gael eu haddysgu y
tu allan i'w grŵp oedran arferol. Yn ymarferol, mae geiriad y Cod wedi
achosi llawer o broblemau: mae astudiaethau achos wedi dangos nad yw Awdurdodau
Addysg Lleol yn gweithredu'r ddarpariaeth yn gyson ac mai prin y caiff
ceisiadau eu derbyn.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y diwygiadau a ganlyn:
(1) Fel yr opsiwn cyntaf, dylid cymeradwyo ceisiadau i ohirio dyddiad dechrau
plant sydd â phen-blwyddi yn ystod misoedd yr haf yn awtomatig (fel sy'n
digwydd yn yr Alban);
(2) Fel arall, dylid diwygio geiriad y ddarpariaeth bresennol i gryfhau hawliau
rhieni i ddewis pryd y bydd eu plant yn dechrau mewn dosbarth Derbyn, gan
bwysleisio hefyd y dylai Awdurdodau Addysg Lleol ystyried ceisiadau yn llawn a
rhoi arweiniad Llywodraethol i'r perwyl hwn;
(3) Yn y naill achos neu'r llall, dylid sicrhau bod plant sy'n cael eu haddysgu
y tu allan i'w grŵp oedran yn aros gyda'u grŵp newydd drwy gydol eu
cyfnod yn yr ysgol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod astudiaeth ddiweddar a
gynhaliwyd gan yr Adran Addysg oedd dangos nad yw gohirio pryd y bydd plentyn
yn dechrau yn yr ysgol gynradd yn cael fawr ddim effaith ar ei gyrhaeddiad.
Dylai Llywodraeth Cymru fod yn ofalus wrth drafod yr astudiaeth hon. Roedd yr
astudiaeth yn gyfyngedig iawn, gan fesur cyrhaeddiad academaidd YN UNIG, a
hynny gan eithrio pob plentyn ag anghenion arbennig neu anghenion ychwanegol.
Mae'n annhebygol iawn mai cyrhaeddiad academaidd fydd y prif reswm y mae
rhieni'n dewis gohirio mynediad eu plentyn at addysg gynradd.
Nid gallu academaidd plentyn yw'r ystyriaeth bennaf wrth benderfynu ynghylch ei
barodrwydd ar gyfer yr ysgol, ond ei aeddfedrwydd emosiynol a chymdeithasol. Y
sgiliau hyn a fydd yn helpu plentyn i wneud ffrindiau, i ddelio â'i emosiynau,
i ddilyn cyfarwyddiadau ac i ganolbwyntio a meithrin iechyd meddwl da. Ni ellir
mesur a oes gan blentyn y sgiliau hyn drwy brawf ffoneg.
Ni fydd cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn diwallu anghenion pob plentyn
yng Nghymru; ni all wneud hynny. Ni ddylai hynny fod yn rheswm dros wrthod
ceisiadau o'r fath. Mae angen polisi derbyn mwy hyblyg er mwyn ystyried
anghenion unigol plant a'r hyn sydd o fudd iddynt. Mae Confensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn pwysleisio y bydd addysg plentyn yn cael ei
chyfeirio at ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd corfforol y plentyn
cymaint â phosibl (Erthygl 29(1)(a)). Drwy roi plant a anwyd yn ystod yr haf o
dan anfantais, nid yw'r Cod Derbyn i Ysgolion presennol yn cyflawni hynny.
Mae gwledydd datganoledig eraill yn y DU eisoes wedi achub y blaen ar Gymru yn
hyn o beth. Mae Nick Gibb, y Gweinidog Gwladol dros Safonau Ysgolion, wedi
ymrwymo i ddiwygio'r Cod Derbyn i Ysgolion i adlewyrchu hawl rhieni i ddewis.
Yn yr Alban, caiff ceisiadau gan rieni i blant o oedran cyfatebol ohirio
dechrau yn yr ysgol eu derbyn yn awtomatig, ac ni fydd y plant yn colli unrhyw
flynyddoedd o addysg ysgol wrth wneud hynny.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 25/09/2018.
Etholaeth a Rhanbarth
y Senedd
·
Gorllewin Clwyd
·
Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2018