P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Chris Evans, ar ôl casglu 652 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rwyf yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal Cymwysterau Cymru rhag
parhau i wahaniaethu yn erbyn dysgwyr cyfrwng Cymraeg, a sicrhau cydraddoldeb
ieithyddol o ran cwricwlwm ysgol.
Yn 2015, penderfynodd CBAC
ollwng Seicoleg TGAU oherwydd niferoedd ymgeiswyr cymharol fach (37 canolfan -
5 yn rhai cyfrwng Cymraeg gyda 144 ymgeisydd cyfrwng Cymraeg bob blwyddyn).
Oherwydd hyn, rhoddwyd gwahoddiad gan Gymwysterau Cymru (CC) i'r Cyrff Dyfarnu
Saesneg; AQA, OCR, Pearson-Edexell,
gynnig y pwnc hwn, a rhai eraill e.e. Economeg, yng Nghymru.
Yn anffodus, ac yn
anghrediniol, ni roddwyd unrhyw bwysau arnynt i gynnig y pynciau yma yn y
Gymraeg. Ymateb Cymwysterau Cymru i hyn yw dweud y byddai'r Cyrff Saesneg yn
gwrthod cynnig pynciau yng Nghymru yn gyfan gwbl pe tase nhw yn cael eu gorfodi
i gynnig opsiwn Cymraeg, a bod CC yn ceisio sicrhau 'y dewis ehangaf o bynciau
i ddysgwyr Cymru' (Cylchlythyr CC, Rhagfyr 2016).
'Y dewis ehangaf o
bynciau i ddysgwyr Cymru'....heblaw eich bod yn dilyn addysg Gymraeg! Ym mis
Medi, ni fydd cwrs Seicoleg TGAU blwyddyn 10 yn rhedeg yn fy ysgol am y tro
cyntaf ers 2009, tra bod yr ysgol cyfrwng Saesneg ychydig filltiroedd i ffwrdd,
yn cychwyn ar gwrs Seicoleg TGAU newydd yn Saesneg trwy AQA. Yr unig reswm pam
nad wyf gallu cynnig y pwnc yw oherwydd ein bod yn dysgu drwy'r Gymraeg. Mae
pedair canolfan Gymraeg arall yn yr un sefyllfa.
Mae angen Seicolegwyr
sy'n gallu trafod eu pwnc drwy'r Gymraeg. Wrth amddifadu disgyblion cyfrwng
Cymraeg rhag y cyfle i astudio Seicoleg TGAU drwy'r Gymraeg, dyna golli 144
myfyriwr y flwyddyn fyddai efo'r potensial o gyfrannu at Seicoleg - fel athro,
darlithydd, therapydd, ymchwilydd a.y.b drwy'r Gymraeg yn hyderus oherwydd bod
y derminoleg berthnasol yn gyfarwydd iddynt.
Gwybodaeth ychwanegol:
Safodd 144
ymgeisydd bapur Uned 2 TGAU Seicoleg CBAC drwy'r Gymraeg i orffen y cwrs yn
2015, a 5 canolfan yn ei gyflwyno, felly mae potensial o niferoedd sylweddol,
nid llond llaw. Rwyf wedi trefnu y byddai tri arholwr Seicoleg profiadol ar
gael i weithio i unrhyw Fwrdd Saesneg fel na fyddai angen cyfieithu unrhyw
sgriptiau (atebion) ymgeiswyr, ond y papur ei hun.
Yr unig Fwrdd Saesneg
wnaeth hyd yn oed ystyried y cais (gen i, nid CC), oedd Pearson, ond gwrthod
wnaethon nhw yn y diwedd gan ddweud 'y byddai angen Cymry Cymraeg ar bob lefel
o gynhyrchu'r papurau'. Mae hynny'n nonsens llwyr oherwydd dydy hynny ddim yn
digwydd hyd yn oed yn CBAC ble mae'r Prif Arholwr a'r Swyddog Pwnc yn
ddi-Gymraeg!
Nid wyf yn beio'r Byrddau,
oherwydd pam dyle nhw fynd i'r drafferth os nad oes rhaid iddyn nhw? Ar
Gymwysterau Cymru y mae'r bai am eu polisi llipa, nad yw'n amddiffyn hawliau
dysgwyr cyfrwng Cymraeg. Byddai hi wedi bod yn bosibl creu elfen o
gystadleuaeth rhwng y Byrddau Saesneg trwy roi blaenoriaeth i rai a fyddai'n
agored i'r syniad o gynnig opsiwn Cymraeg, ond doedd dim ymdrech i wneud hyn o
gwbl.
Mae hyn yn hollol
annerbyniol yn y Gymru Fodern. Os ydy Cyrff Dyfarnu Saesneg yn cael cynnig
pynciau yng Nghymru, rhaid gwneud yn glir iddyn nhw bod angen cynnig papur
Cymraeg ble mae cais rhesymol dros wneud hyn.
Disgybl
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
It was first
considered by the Petitions Committee on 07/11/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Wrecsam
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/10/2017