P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr
P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr
P-05-821
Ailgyflwyno cyllid
cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad
Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan UNISON Neath Port Talbot, ar
ôl casglu 334 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Mae cangen
Castell-nedd Port Talbot o UNSAIN yn galw ar i Lywodraeth Cymru wrthdroi’r
penderfyniad i dorri cyllid cymorth addysgol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad
Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS) a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr (TES).
Yn y bôn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi tynnu cyllid ar gyfer y
grwpiau hyn yn ôl o dan y grant gwella addysg. Mae ymchwil yn dangos mai plant
Roma a Theithwyr sydd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig
yng Nghymru, a diben y grant gwella addysg yw cefnogi eu dysgu a gwella
cyrhaeddiad.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae canran o’r disgyblion yn ein hysgolion yn
deithwyr ac yn grwpiau ethnig lleiafrifol sy’n dibynnu ar yr arian hwn; mae
Margam a Llansawel yn enghreifftiau o hyn. Mae gan y cyngor dystiolaeth bod
gweithwyr cymorth yn darparu gwasanaeth gwych o ran ymgysylltu â’r dysgwyr
‘anodd eu cyrraedd’ hyn. Rydym am i bob person ifanc allu cyrraedd ei botensial
ac mae gweithwyr cymorth yn gallu hyrwyddo anghenion pob dysgwr, yn enwedig y
rhai sy’n agored i niwed neu sydd o dan anfantais. Maent yn meithrin
perthnasoedd cryf â theuluoedd, ysgolion a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
Bydd y gostyngiad yn eu cyllid yn niweidiol ac mae torri swyddi eisoes yn cael
ei drafod â’r undebau llafur. Bydd angen talu unrhyw gostau diswyddo o gyllideb
sydd eisoes dan bwysau.
Rydym yn
annog i Lywodraeth Cymru ymgynghori ag UNSAIN ac awdurdodau lleol. Rhaid i
Lywodraeth Cymru gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i sicrhau bod
arian yn cael ei ddyrannu i’r rhai sydd mewn angen.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/05/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Llywodraeth
Cymru wedi adfer y grant ar gyfer y gwasanaethau hyn yn 2018-19 a 2019-20, a
gwaith craffu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllideb Llywodraeth
Cymru, gan gynnwys Grant Gwella Addysg.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/07/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Aberafan
·
Gorllewin de Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/06/2018