P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Friends of Barry Beaches, ar
ôl casglu 102 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Mae'r dystiolaeth ar gael i'r rhai sydd am ei
gweld ... mae ein dibyniaeth ar blastig untro a daflir i ffwrdd yn gwenwyno ein
byd naturiol.
Mae adar y môr yn bwyta plastigau, mae pysgod yn bwyta plastigau, mae pysgod
cregyn yn bwyta plastigau ac rydym ni, felly, yn bwyta plastigau.
Mae cynhyrchu plastigau untro yn cynyddu bob blwyddyn, ond dim ond 9 y cant o
blastigau sy'n cael eu hailgylchu yn y byd.
Ers i gynhyrchu plastigau ar raddfa fawr ddechrau yn y 1950au, rydym wedi
cynhyrchu 8.3 biliwn o dunelli ... yn gyfwerth â phwysau un biliwn o eliffantod
Affricanaidd! A disgwylir i'r ffigur hwnnw gyrraedd 34 biliwn o dunelli erbyn
2050!!
Nid oes dim o'r plastig hwn wedi bioddiraddio yn ystod y cyfnod hwn, ond yn
hytrach mae wedi parhau i leihau, gan ei wneud bron yn amhosibl i'w ddileu!
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar yr holl blastigau untro
sy'n debyg i'r taliad 5p llwyddiannus iawn ar fagiau siopa untro.
Mae'n bryd gweithredu.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Grŵp gwirfoddol yw Cyfeillion Traethau'r
Barri, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, y mae ei nod yw cael gwared â sbwriel,
llawer ohono yn blastig, o bum prif draeth y Barri. Rydym yn ymdrechu i
ailgylchu cymaint ohono ag y gallwn.
Mae angen inni ddylunio ein pecynnau a'n cynwysyddion untro fel eu bod yn
bioddiraddio'n hawdd yn ein hamgylchedd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/03/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2018