P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig
P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion
Gwledig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cymdeithas Rhieni ac
Athrawon Ysgol Gymunedol Bodffordd, ar ôl casglu 5,125 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Galwn ar
y Llywodraeth i gymryd camau i sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn dilyn canllawiau'r
cod trefniadaeth ysgolion presennol a'r cod newydd (pan ddaw i rym) gan gynnwys
gweithredu'n unol â'r rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig. Derbyniwn nad yw
hyn yn golygu na chaiff ysgol wledig byth ei chau, ond mae penderfyniad
diweddar Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn i gau ysgol Bodffordd yn dangos bod
rhwydd hynt i awdurdodau lleol anwybyddu'r cod newydd (y maent i fod i
weithredu yn unol â'i ysbryd) a chau hyd yn oed ysgolion poblogaidd a llawn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 21/01/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr
ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y ffaith bod y Gweinidog
Addysg wedi dangos parodrwydd i ymyrryd o’r blaen mewn sefyllfaoedd lle mae
pryderon nad yw awdurdodau lleol wedi dilyn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, ac
oherwydd ei bod yn ymddangos nad oes llawer o arwydd y bydd Llywodraeth Cymru
yn cyflwyno proses apelio yn erbyn cau ysgolion ar hyn o bryd. Roedd y Pwyllgor
am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y
dyfodol.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/09/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Ynys Mon
·
Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Gwelliant
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2018