P-04-433: Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol
i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol i osod teledu cylch cyfyng mewn
lladd-dai er mwyn helpu milfeddygon i reoli a monitro yn well, darparu deunydd
ffilm er budd hyfforddiant ac ail-hyfforddi, atal camdrin anifeiliaid, fel y
ffilmiwyd gan Animal Aid, ac fel tystiolaeth ar gyfer erlyniad mewn achosion o
gamdrin.
Prif ddeisebydd: Kate Fowler
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 6 Tachwedd 2012
Nifer y llofnodion: 1066
Statws
Yn ei gyfarfod ar
03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y rhestr gyfredol o ddadleuon y gofynnwyd amdanynt a chytunodd i
beidio â pharhau i geisio dadl ar ei adroddiad ar P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng
mewn Lladd-dai a P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn
lladd-dai Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Ionawr 2020 ond ni lwyddwyd i’w
drafod bryd hynny. O ystyried faint o amser sydd wedi mynd heibio, cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am eu cyfraniad.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/11/2012.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/01/2020
Dogfennau