P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru
P-05-831
Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir
i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Contaminated
Whole Blood UK Group, ar ôl casglu 159 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Gynulliad Cymru
i roi diwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i
ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru, drwy newid y cynllun i o
leiaf adlewyrchu'r darpariaethau ar gyfer y rheini a gaiff eu heintio yn
Lloegr.
Mae sawl categori o ddioddefwyr yng Nghymru
sydd o bosibl ar eu colled o £20,000 neu fwy o dan y cynllun. Cafodd miloedd o
bobl eu heintio o ganlyniad i dderbyn gwaed wedi'i heintio neu gynhyrchion
gwaed wedi'u heintio a roddwyd iddynt gan y GIG tan fis Medi 1991 o leiaf. Mae
dros ddwy fil o bobl eisoes wedi marw.
Yn dilyn datganoli pwerau, y Cynulliad sydd
â'r cyfrifoldeb dros gefnogi dioddefwyr a'u teuluoedd y rhai sydd wedi'u
heintio yng Nghymru. Caiff y cynlluniau cefnogaeth eu gweithredu gan wasanaeth
Cefnogi Gwaed wedi'i Heintio yng Nghymru (WIBSS) a weinyddir gan
Ymddiriedolaeth GIG Velindre a Chyd-bartneriaeth Gwasanaethau'r GIG (NWSSP)
sydd, yn y pen draw, yn atebol i Gynulliad Cymru.
I'r rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr,
cynhelir y cynllun cyfatebol gan EIBSS, sydd yn y pen draw yn atebol i'r senedd
yn Llundain. Er i'r dioddefwyr oll gael eu heintio gan y GIG cyn iddo gael ei
ddatganoli, mae gan EIBSS ac WIBSS ddarpariaethau tra gwahanol o ran cymorth
ariannol. Y ffactor sy'n pennu pa gynllun y byddwch chi'n ei gael yw lle cafodd
y dioddefwr ei heintio yn hytrach na lle mae'n byw. Mae dau gynllun na all y
rheini sydd o dan WIBSS gael mynediad atynt. Gelwir y rhain yn 'Fecanwaith
Categori Arbennig' a 'cynllun cyllid ychwanegol dewisol'. Effaith net hyn oll
yw bod sawl categori o ddioddefwyr heintiau yng Nghymru o bosibl ar eu colled o
£20,000 o dan y cynllun, neu'n fwy os oes ganddynt blant, waeth ble y maent yn
byw. Bydd dau berson sy'n byw yng Nghaerdydd er enghraifft, sydd wedi'u heintio
gan y GIG, â'r un effaith, o bosibl yn cael gwahaniaeth o £20,000 mewn cymorth
ariannol dim ond gan fod un o'r ddau 'yn fwy lwcus' o gael ei heintio yn
Lloegr.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i ymyrryd
i roi diwedd ar yr anghyfiawnder hwn nawr
Gwybodaeth Ychwanegol
Pwy ydym ni: rydym yn grŵp
cefnogi cyfoedion annibynnol sy'n cynnwys dioddefwyr sgandal gwaed wedi'i
heintio ledled y DU https://www.facebook.com/groups/ContaminatedWholeBloodUK/
Lle gellir canfod manylion
cynlluniau cyfatebol ar gyfer y rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr a'r rheini
a gaiff eu heintio yng Nghymru: I bobl sydd wedi'u heintio yng Nghymru, https://wibss.wales.nhs.uk/ I bobl
sydd wedi'u heintio yn Lloegr, dyma'r cynllun cyfatebol https://www.nhsbsa.nhs.uk/england-infected-blood-support-scheme
Beth sydd wedi digwydd hyd yn
hyn:
Ar sawl achlysur, mae gwahanol
sefydliadau wedi ceisio codi'r mater yn yr ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan
Syr Brian Langstaff a thrwy wneud y wasg yn ymwybodol o'r erthygl hon sy'n
canolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng cynlluniau Cymru a'r Alban https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43898899
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 25/09/2018.
Etholaeth a Rhanbarth
y Senedd
·
Gorllewin Clwyd
·
Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2018