P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru
P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n
Gyflym yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon
gan Gangen Brycheiniog a Sir Faesyfed o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, wedi iddi
gasglu 2,469 o lofnodion ar-lein a 2,098 ar bapur, sef cyfanswm o 4,567 o
lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar
Gynulliad Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau strategol hirdymor i
sicrhau bod y diwydiant cynnyrch dofednod yn gynaliadwy yn amgylcheddol drwy
gyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Cymru), Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a
Rhywogaethau 2017, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Gyfarwyddeb
Fframwaith Dŵr (WFD) yn effeithiol.
Mae gyrwyr amaethyddol pwerus sy'n cael eu hatgyfnerthu gan BREXIT yn
cynyddu cynhyrchiad dwys o ran wyau a dofednod.
Mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r canlyniadau amgylcheddol difrifol o
ran bioamrywiaeth, pridd ac ansawdd dŵr ac afiechydon adar a dynol. Mae'r cyhoedd yn codi llais ynghylch lles
dofednod ond yn anwybodus, ar y cyfan, am effaith amgylcheddol unedau ffermio
dofednod dwys. Mae unedau wyau
"maes" gyda chrynhoad o hyd at 2,500 o adar i bob hectar yn risg
arbennig (adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 218: Astudiaeth Peilot Dofednod
Powys a rhybuddion nitrogen INI 6/17).
Mae cymoedd serth, glawiad uchel sy'n achosi difrod maethol trwm a
phoblogaethau o rywogaethau naturiol prin yn gwneud llawer o Gymru wledig yn
hollol anaddas ar gyfer y ffrwydrad presennol o unedau ffermio dofednod
dwys. Ar ôl gostyngiad yn 1990, mae allyriadau
amonia wedi bod yn cynyddu ers 2010 (adroddiad Rhestr Allyriadau Atmosfferig
Genedlaethol 2017 ar gyfer DEFRA). Mae
llwythau critigol o ddyddodiadau amonia a nitrogen (trothwyon amcangyfrifedig o
ran niwed annerbyniol i amrywiaeth planhigion) yn llawer uwch mewn rhai
safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd a'r DU, Gwarchodfeydd Natur Lleol a
Choetiroedd Hynafol. Mae ffosffadau
gormodol yn bygwth ein cyrsiau dŵr (Sefydliad Gwy a Wysg 2017).
Wrth fethu â gweithredu ar y dystiolaeth, mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth
Naturiol Cymru a Chyngor Sir Powys yn esgeuluso'r ddyletswydd i "gynnal a gwella bioamrywiaeth"
(Deddf yr Amgylchedd Adran 6).
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i reoli'r diwydiant:
1)
Darparu adnoddau priodol ar gyfer
Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud ymchwil brys, rheoleiddio a
monitro unedau dwys a rhoi gwell cymorth cynllunio i Awdurdodau Cynllunio
Lleol (ACLl).
2)
Cyhoeddi polisi cynllunio ac
arweiniad i ACLl i wella penderfyniadau, sicrhau bod
effeithiau cronnus yn cael eu hystyried a monitro a gorfodi amodau cynllunio.
3)
Gwneud i'r diwydiant gyfrannu tuag at gostau rheoleiddio a monitro a'i ddwyn i gyfrif am dorri
cyfrifoldeb amgylcheddol.
4)
Cyhoeddi adroddiadau cyhoeddus
tryloyw ar gynnydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
O Bowys
y daw ein tystiolaeth, ond mae ein deiseb yn berthnasol i Gymru gyfan.
Mae'r
Cadeirydd, Diane McCrea, yn cadarnhau nad oes gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddigon
o adnoddau (BBC 14/12/17). Mae Cyfoeth
Naturiol Cymru yn asesu effeithiau ceisiadau Unedau Dofednod ar safleoedd natur
Ewropeaidd a'r DU ac yn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer unedau o dros 40,000 o
adar. Mae canllawiau gwell Cyfoeth
Naturiol Cymru (Ebrill 2017) yn cwmpasu effeithiau cronnol ond mae dulliau asesu
yn methu â rhwystro datblygiad lle mae llwythi yn uwch na'r llwyth critigol
presennol.
Mae'r
Awdurdod Cynllunio Lleol yn asesu disgrifiad priodol o wasgariad ac effeithiau
ar ansawdd dŵr, ansawdd aer, Gwarchodfeydd Natur Lleol, Coetiroedd
Hynafol, tirwedd, amwynderau preswyl a thraffig lleol.
Nid
oes gan Awdurdodau Cynllunio Lleol y sgiliau a'r adnoddau ar gyfer y
cyfrifoldebau hyn. Nid yw Cyngor Sir
Powys yn ystyried effaith gronnus ceisiadau, ynghyd â'r holl Unedau cyfagos, ar
yr amgylchedd naturiol, tirwedd neu drigolion gwledig. Dylai Atodlen 2 Asesiad Effaith
Amgylcheddol sicrhau bod yr effeithiau cronnus yn cael eu hasesu ond mae hyn yn
methu yn ymarferol. Mae Cyngor Sir Powys
yn amharod i ddyfarnu statws AEA oherwydd y gall Llywodraeth Cymru wyrdroi'r
penderfyniad (gweler P/2016/0608 a P/2017/0007).
Mae
gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ddata ar geisiadau cynllunio dofednod dwys ym
Mhowys ers 2011. Yn ystod y 30 mis
diwethaf, bu 99 o GEISIADAU
yn cynnwys dros DAIR MILIWN O ADAR, gyda 72 ohonynt
ar gyfer wyau maes. O'r 99, dim ond 10
sydd â statws AEA: Mae 65 o geisiadau wedi'u cymeradwyo a DIM OND UN A WRTHODWYD.
Mae
gennym dystiolaeth o ddatblygiadau a gymeradwywyd heb fapio gwasgariad
cyfuchlinellau neu wasgariad awyr agored, yn agos at warchodfeydd natur (71m),
coetiroedd hynafol bregus (cyfagos) cyrisau dŵr (10m) a thrigolion (50m).
Mae trigolion yn dioddef risgiau iechyd o bryfed, amonia yn yr awyr, llwch
dofednod, gronynnau a gynhyrchir gan draffig ac arogleuon tramgwyddus.
Anwybyddir gwrthwynebiadau rhanddeiliaid amgylcheddol a chyhoeddus, mae
rhywogaethau planhigion prin yn marw, mae risgiau o glefydau yn cynyddu ac mae
cyrsiau dŵr yn methu safonau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
DIGON YW DIGON: Gellir gweld cyfres unigryw o DDATA
UNEDAU DOFEDNOD DWYS POWYS gan gynnwys ceisiadau, map rhyngweithiol,
map o fannau trafferthus ac arddangosfa animeiddiedig o dwf cronolegol yr
Unedau Dofednod Dwys yn http://www.brecon-and-radnor-cprw.wales/?page_id=13.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 23/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth bellach, a nododd fod y gwaith yn mynd
rhagddo i adolygu – a phan fydd cyfleoedd yn cael eu nodi, cryfhau – gofynion
cynllunio sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth ddwys. Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r
pryderon difrifol a fynegwyd gan y deisebwyr trwy gydol y broses hon ond daeth
i'r casgliad – yn wyneb yr ymatebion a gafwyd gan y Gweinidog, Cyfoeth Naturiol
Cymru a'r deisebwyr – mai prin iawn yw’r hyn y gallai ei gyflawni ymhellach ar
hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac ysgrifennu at y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a all barhau i fonitro
datblygiadau fel rhan o'u gwaith ynghylch defnydd tir a bioamrywiaeth.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/06/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
·
Brycheiniog a Sir Faesyfed
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/05/2018