P-05-820 Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd
P-05-820 Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd
P-05-820
Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar
y brif reilffordd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bethan Phillips ac ystyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod Mehefin 2018, ar ôl casglu 10,472 o
lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Annwyl Weinidog(ion) y Llywodraeth,
Rwyf am dynnu eich sylw at y newyddion diweddar sy’n
awgrymu y bydd Castell-nedd yn cael ei dynnu oddi ar y brif reilffordd o
Abertawe i Paddington Llundain.
Nid wyf o blaid y penderfyniad hwn oherwydd credaf y
byddai cymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd yn cael effaith andwyol ar
economi ein tref, ac ar yr ymgais i’w hadfywio. Mae’r orsaf eisoes wedi mynd â’i
phen i waered ac mae bellach yn ganolbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddai
tynnu Castell-nedd oddi ar y brif linell yn gwneud dim ond gwaethygu’r
problemau hyn.
Byddai hefyd yn cael effaith negyddol ar y rhai sy’n
cymudo ar y brif linell i fynd i’r gwaith, a fyddai’n golygu y byddai’n rhaid
iddynt ddal trên ychwanegol i gysylltu ag Abertawe, Baglan neu Bort Talbot yn
gyntaf.
Mae ffigurau diweddar a ddatgelwyd yn sgîl gwaith ymchwil
gan Jamie Evans, Cynghorydd Plaid Cymru dros Dde Castell-nedd wedi canfod:
Roedd tua 830,000 o deithwyr yn defnyddio gorsaf drenau
Castell-nedd bob blwyddyn, gan ei gwneud yr ail orsaf brysuraf ar ôl Abertawe,
yn sir hanesyddol Gorllewin Morgannwg, a’r brysuraf o blith y pum gorsaf yng
Nghastell-nedd Port Talbot. Byddai’r cynlluniau i gael gwared â Chastell-nedd
o’r brif linell yn golygu y byddai’n rhaid i gymudwyr sy’n teithio i Gaerdydd o
Gastell-nedd ddal trên i Abertawe, Baglan neu Bort Talbot yn gyntaf, sy’n
golygu cynnydd o ran y gost a’r amser a gymerir iddynt fynd nôl a blaen i’r
gwaith.
Ni fyddai pobl o Gastell-nedd, Pontardawe, Sgiwen,
Glyn-nedd na Chwm Dulais yn cael unrhyw fudd o gwbl o’r "10 munud" o
amser a arbedir ar deithiau rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Gofynnaf yn garedig i chi ail-ystyried y penderfyniad
hwn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/09/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/06/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Castell-nedd
·
Gorllewin de Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/06/2018