P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru
P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng
Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ban Plastic Straws
Wales, ar ôl casglu 161 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cymru i wahardd pob eitem blastig untro yng Nghymru.
Amcangyfrifir bod y DU ac UDA yn unig yn taflu tua 550 miliwn o wellt plastig
bob dydd. Er bod pob un ond yn cael ei ddefnyddio am gyfartaledd o 20 munud yn
unig, maent yn cymryd canrifoedd i bydru. Yn ystod ymgyrch lanhau gan y
Gymdeithas Cadwraeth Forol y llynedd, ar gyfartaledd, canfu 138 o ddarnau o
wastraff yn gysylltiedig â bwyd a diod ar bob 100m o draethau’r Deyrnas Unedig.
Mae angen atal
hyn ac mae angen i’r amgylchedd fod yn flaenoriaeth.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 21/01/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor
ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y camau sy’n cael eu
cymryd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad neu
gyfyngiadau ar eitemau plastig defnydd sengl, a chydnabod yr amserlenni sy’n
gysylltiedig â chyflwyno gwaharddiad o’r fath.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/09/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Sir Drefaldwyn
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Gwelliant
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2018