Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/10/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau a ystyriwyd yn flaenorol i’w sifftio ac sy’n awr yn destun craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

2.1

SL(6)267 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

3.1

SL(6)269 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

(13.40 - 13.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Cadarnhaol

 

4.1

SL(6)268 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

(13.45 - 13.50)

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

5.1

SL(6)260 - Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a nododd ef. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y Rheoliadau hyn wedi’u tynnu’n ôl gan Lywodraeth Cymru.

 

5.2

SL(6)238 – Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a nododd ef.

 

(13.50 - 13.55)

6.

Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

6.1

WS-30C(6)012 - Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

6.2

WS-30C(6)013 – Rheoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

(13.55 - 14.00)

7.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

7.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

 

7.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

 

7.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

 

(14.00 - 14.05)

8.

Papurau i'w nodi

8.1

Gohebiaeth gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi: Colli Effaith: pam mae system asesiad effaith y Llywodraeth yn gwneud cam â’r Senedd a’r cyhoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷr Arglwyddi.

 

(14.05)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd Pwyllgor dros dro ar gyfer y cyfarfod Pwyllgor ar 7 Tachwedd.

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ethol Alun Davies AS yn gadeirydd dros dro ar gyfer ei gyfarfod ar 7 Tachwedd 2022.

 

(14.05)

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.05 - 14.15)

11.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm Rhif 1 a Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Tai Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) a chytunodd i drafod adroddiad drafft ar y Memorandwm mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(14.15 - 14.25)

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn nodi pryderon ynghylch y Memorandwm.

 

(14.15 - 14.25)

13.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael, a chytunodd arno.

 

(14.30 - 14.35)

14.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd), a chytunodd arno.

 

(14.35 - 14.55)

15.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon a chytunodd i drafod a chytuno ar ddrafft diwygiedig y tu allan i gyfarfodydd y Pwyllgor.

 

(14.55 - 15.10)

16.

Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod ar 14 Tachwedd 2022.

 

(15.10 - 15.20)

17.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Trafod yr ohebiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr ohebiaeth a ddaeth i law ynghylch Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

 

(15.20 - 15.30)

18.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Prisiau Ynni a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion.

 

(15.30 - 15.40)

19.

Cysylltiadau rhynglywodraethol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried llythyr drafft at Lywodraeth y DU mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol.