Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Cyflwynwyd y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 11 Mai 2022.
Mae teitl hir y Bil yn nodi
mai diben y Bil “yw gwneud darpariaeth ar gyfer pennu cenadaethau ffyniant bro
ac adrodd ar gynnydd o ran eu cyflawni; ac mae’n nodi y bydd y Bil yn ymwneud â
democratiaeth leol; cynllunio gwlad a thref; yr Ardoll Seilwaith Cymunedol;
gosod Ardoll Seilwaith; adroddiadau canlyniadau amgylcheddol ar gyfer
rhai caniatadau a chynlluniau; adfywio; prynu tir yn orfodol; gwybodaeth a
chofnodion sy'n ymwneud â thir, yr amgylchedd neu dreftadaeth; darparu i
drwyddedau palmant fod yn barhaol; llywodraethu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr
Siartredig; crwydraeth a chardota; a dibenion cysylltiedig.”
Mae'r
Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Cytunwyd
ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio yn y
Cyfarfod Llawn ar 17
Hydref 2023.
Daeth
Bil Ffyniant Bro ac Adfywio yn Ddeddf ar 26 Hydref 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Hydref 2023
Ar
6 Hydref 2023, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 229 KB).
Cytunodd (PDF
39KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio ei drafod ac y gwneir
adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 16 Hydref 2023.
Cyhoeddodd
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar
Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil
Ffyniant Bro ac Adfywio (PDF 148KB) ar 16 Hydref 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Awst 2023
Ar
16 Awst 2023, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 318 KB).
Cytunodd (PDF
39KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio ei drafod ac y gwneir
adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 13 Hydref 2023.
Cyhoeddodd
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm
Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (PDF 104KB) ar 29 Medi 2023. Ymatebodd Llywodraeth
Cymru ar 17 Hydref 2023.
Ysgrifennodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Gweinidog Newid
Hinsawdd ar 2 Hydref 2023 (PDF 102KB).
Cyhoeddodd
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar
Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil
Ffyniant Bro ac Adfywio (PDF 233KB) ar 6 Hydref 2023. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru ar 17 Hydref 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Ebrill 2023
Ar
27 Ebrill 2023, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 117 KB).
Cytunodd (PDF
43.3KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Fil Ffyniant Bro ac Adfywio ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r
Senedd, erbyn 22 Mai 2023.
Ar 9 Mai 2023, cytunodd (PDF 53.9KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 5 Mehefin
2023.
Ysgrifenodd
y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes ar 18 Mai 2023 (PDF
84KB).
Ar
23 Mai 2023, cytunodd
(PDF 68.7KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 12 Mehefin 2023.
Cyhoeddodd
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar
Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 250KB) ar 9 Mehefin 2023. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 27 Mehefin 2023.
Cyhoeddodd
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar ei adroddiad ar
Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 158KB) ar 12 Mehefin 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Tachwedd 2022
Ar
30 Tachwedd 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 114 KB).
Cytunodd
(PDF 43.1KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar y Fil Ffyniant Bro ac Adfywio ei drafod ac y gwneir adroddiad arno,
i’r Senedd, erbyn 16 Chwefror 2023.
Cyhoeddodd
y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad ar y
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (PDF
124KB) ar 13 Chwefror 2023.
Gosododd
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad ar y
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (PDF
159KB) ar 15 Chwefror 2023.
Cyhoeddodd
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith ei adroddiad (PDF
98KB) ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ffyniant Bro ac
Adfywio ar 15 Chwefror 2023.
Cyhoeddodd
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
219KB) ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ffyniant Bro ac
Adfywio ar 24 Chwefror 2023. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 25 Ebrill 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Tachwedd 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig (PDF 212KB) ar y Bil gerbron y Senedd
ar 25 Tachwedd 2022.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Medi 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 193KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 28 Medi
2022.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Newid
Hinsawdd,
yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno
adroddiad arno erbyn 8 Rhagfyr 2022 (PDF 50KB).
Ar 22 Tachwedd 2022, cytunodd (PDF 54.6 KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 16 Chwefror 2023.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2022
Dogfennau