Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
Rhaid i aelod o
Lywodraeth Cymru osod
datganiad ysgrifenedig i roi hysbysiad o offeryn
statudol perthnasol a wnaed, neu sydd i’w wneud, gan Weinidog y DU sy’n
gweithredu ar ei ben ei hun o dan adrannau 9 neu 23 o Ddeddf yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) 2018, neu Atodlen 4 i’r Ddeddf honno, sy’n cynnwys
darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd
gweithredol Gweinidogion Cymru.
Daeth y pŵer i wneud offeryn statudol perthnasol o
dan adran 8 o Ddeddf 2018 i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
Gellir dod o hyd
i unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud â Datganiad Ysgrifenedig a wnaed o dan Reol
Sefydlog 30C o dan y Datganiad Ysgrifenedig penodol a restrir isod.
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/06/2021