Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Prisiau Ynni
Cyflwynwyd y Bil Prisiau Ynni (y Bil) yn
Nhŷ'r Cyffredin ar 12
Hydref 2022.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi ei fod yn Fil "i wneud darpariaeth ar gyfer rheoli prisiau
ynni; i annog defnyddio a chyflenwi ynni yn effeithlon; ac at ddibenion eraill
sy'n gysylltiedig â'r argyfwng ynni"
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29 .Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Prisiau Ynni yn y Cyfarfod
Llawn ar 19 Hydref 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Hydref 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 136KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 18 Hydref
2022.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/10/2022
Dogfennau