Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 24/10/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau a ystyriwyd yn flaenorol i’w sifftio ac sy’n awr yn destun craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3 |
|
SL(6)267 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)269 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon
arno. |
||
(13.40 - 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Cadarnhaol |
||
SL(6)268 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i
gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
(13.45 - 13.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)260 - Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a
nododd ef. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y Rheoliadau hyn wedi’u tynnu’n ôl gan
Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)238 – Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a
nododd ef. |
||
(13.50 - 13.55) |
Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C |
|
WS-30C(6)012 - Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. |
||
WS-30C(6)013 – Rheoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. |
||
(13.55 - 14.00) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
(14.00 - 14.05) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi: Colli Effaith: pam mae system asesiad effaith y Llywodraeth yn gwneud cam â’r Senedd a’r cyhoedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bwyllgor Craffu ar
Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi. |
||
(14.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd Pwyllgor dros dro ar gyfer y cyfarfod Pwyllgor ar 7 Tachwedd. Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ethol Alun Davies AS yn gadeirydd
dros dro ar gyfer ei gyfarfod ar 7 Tachwedd 2022. |
|
(14.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.05 - 14.15) |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm Rhif 1 a Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Tai Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) a chytunodd i drafod
adroddiad drafft ar y Memorandwm mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(14.15 - 14.25) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio, a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Newid Hinsawdd yn nodi pryderon ynghylch y Memorandwm. |
|
(14.15 - 14.25) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael, a chytunodd arno. |
|
(14.30 - 14.35) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd): Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd), a
chytunodd arno. |
|
(14.35 - 14.55) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon: Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon a chytunodd i
drafod a chytuno ar ddrafft diwygiedig y tu allan i gyfarfodydd y Pwyllgor. |
|
(14.55 - 15.10) |
Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a chytunodd i ystyried
fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod ar 14 Tachwedd 2022. |
|
(15.10 - 15.20) |
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Trafod yr ohebiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr ohebiaeth a ddaeth i law
ynghylch Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). |
|
(15.20 - 15.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor femorandwm cydsyniad deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar y Bil Prisiau Ynni a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Newid Hinsawdd i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion. |
|
(15.30 - 15.40) |
Cysylltiadau rhynglywodraethol. Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried llythyr drafft at Lywodraeth y
DU mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol. |