Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
13.30-14.30 |
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Cath Wyatt,
Rheolwr Bil Grace Martins,
Cyfreithwraig Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (PDF
1,087KB), fel y'i cyflwynwyd Memorandwm Esboniadol (4.8MB) LJC(6)-16-21 –
Papur 1 – Nodyn briffio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg mewn perthynas â'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Cadarnhaodd
y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn anfon llythyr at y Gweinidog ar ôl y sesiwn
gyda chwestiynau ychwanegol yn ymwneud â'r Bil. |
|
14.30-14.35 |
Offerynnau statudol negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.3B. Dogfennau ategol: |
|
pNeg(6)002 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y
dylai'r weithdrefn negyddol fod yn gymwys. |
||
14.35-14.45 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)087 - Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad o ran ei hymateb i’r adroddiad. |
||
SL(6)091 - Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)092 - Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)093 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)094 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)095 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)096 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)100 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)097 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd diwygiedig a nodwyd ac a drafodwyd yn y cyfarfod. |
||
SL(6)088 - Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)089 - Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
14.45-14.50 |
Is-ddeddfwriaeth nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 Dogfennau ategol: |
|
SL(6)090 – Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon arno. |
||
14.50-14.55 |
Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C |
|
WS-30C(6)004 - Rheoliadau Ystadegau'r DU (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. |
||
14.55 - 15.00 |
Fframweithiau cyffredin |
|
Fframwaith cyffredin dros dro: Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol. |
||
15.00-15.05 |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog, a’i fod
wedi’i anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Grŵp Rhyng-Weinidogol i drafod Etholiadau a Chofrestru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad, a’i fod wedi’i anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau
Rhyngsefydliadol. |
||
15.05.-15.10 |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Pŵer Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith, Senedd yr Alban: Ymchwiliad i ddefnyddio’r weithdrefn gwneud cadarnhaol yn ystod pandemig y coronafeirws. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gynullydd Pwyllgor Pŵer Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith Senedd yr Alban
ac, yn breifat, cytunwyd i ymateb maes o law. |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygiadau Amrywiol) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd y DU. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Newid
Hinsawdd a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
15.10 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac o Eitem 1 y cyfarfod a gaiff ei gynnal ar 13 Rhagfyr 2021 Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig |
|
15.10-15.25 |
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod
ei sesiwn gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y Bil Addysg Drydyddol ac
Ymchwil (Cymru), a nododd y byddai'n ystyried ymateb y Gweinidog i'w lythyr
gyda chwestiynau ychwanegol maes o law. |
|
15.25-15.35 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr
Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd arno, ac y byddai’r
adroddiad yn cael ei osod erbyn 5pm. |
|
15.35-15.45 |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau - trafod yr adroddiad drafft. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd
arno, yn amodol ar rai mân newidiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad
yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol. |
|
15.45-16.00 |
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - trafod yr adroddiad drafft diwygiedig. Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o'i adroddiad ar
Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Llywodraeth Cymru. Nododd y
Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol. |
||
15.45-16.00 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) LJC(6)-16-21 -
Papur 37 – Nodyn cyngor
cyfreithiol LJC(6)-16-21 –
Papur 41 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil
Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y
byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith
Lesddaliad (Rhent Tir) a osodwyd ar 3 Rhagfyr 2021. |
||
16.00-16.05 |
Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 29 Tachwedd 2021 - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau
rhyngwladol a ystyriwyd yn ei gyfarfod ar 29 Tachwedd 2021, a chytunodd arno.
Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol at y Sefydliad Llafur Rhyngwladol: Confensiwn Trais ac Aflonyddu
2019 (Rhif 190), ac i rannu gohebiaeth gan y Prif Weinidog ar y DU / y Swistir:
Confensiwn ar gydlynu nawdd cymdeithasol gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol. Hefyd, nododd y Pwyllgor y byddai copi o’i adroddiad yn cael ei
roi i aelodau Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi. |