Rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020, a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 sy'n ddarostyngedig i'r broses sifftio.
Mae Deddf Cyfraith yr
UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud
rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth bresennol.
Paragraff 9 o
Atodlen 5 i Ddeddf 2023 yn darparu ar gyfer pennu pwyllgor yn y Senedd i
‘sifftio’ rhai rheoliadau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu gwneud o dan y
weithdrefn negyddol a elwir yn “rheoliadau negyddol arfaethedig”. Yna, bydd y
Pwyllgor sifftio yn ystyried y weithdrefn briodol i'w dilyn (a fydd fel arfer
naill ai'r weithdrefn negyddol neu'r weithdrefn gadarnhaol). Ceir rhagor o
wybodaeth am y gwahanol weithdrefnau ar y
dudalen Is-ddeddfwriaeth.
Mae manylion y
broses sifftio wedi’u nodi Atodlen 5 i Ddeddf 2023. Yn fras:
- mae’r rheoliadau negyddol arfaethedig
yn cael eu gosod gerbron y Senedd ar ffurf drafft;
- o fewn cyfnod o 14 diwrnod calendr ar
ôl gosod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau negyddol
arfaethedig (h.y. eu gwneud yn gyfraith), oni bai bod y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi gwneud
argymhelliad ynghylch y weithdrefn briodol ar gyfer y rheoliadau;
- o fewn y 14 diwrnod calendr hynny,
caniateir i’r Pwyllgor ystyried y rheoliadau negyddol arfaethedig ac
argymell y dylai'r rheoliadau ddilyn gweithdrefn amgen (megis y weithdrefn
gadarnhaol);
- ar ôl i'r 14 diwrnod calendr fynd
heibio (neu’n gynt os yw’r Pwyllgor eisoes wedi gwneud argymhelliad),
caiff Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen â'r rheoliadau negyddol arfaethedig o
dan naill ai:
- y weithdrefn a gaiff ei hargymell,
fel y weithdrefn gadarnhaol (h.y. mae'n ofynnol cynnal dadl a phleidlais
ar yr offeryn yn y Senedd cyn y caiff ei wneud a'i ddwyn i rym), neu
- y weithdrefn negyddol (h.y. mae'r
offeryn wedi'i wneud a chaiff ei ddwyn i rym, ond caiff ei ddiddymu os
bydd y Senedd yn penderfynu ei ddiddymu o fewn 40 diwrnod wedi iddo gael
ei osod).
Gweler hefyd Reolau
Sefydlog 21 a 27 ar gyfer gweithdrefnau'r Senedd sy'n berthnasol i graffu
ar reoliadau negyddol arfaethedig.
Roedd Deddf yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a Deddf yr Undeb
Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 hefyd yn darparu pwerau i
Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau a darparu ar gyfer pennu
pwyllgor yn y Senedd i ‘sifftio’ rhai rheoliadau y mae Gweinidogion Cymru yn
bwriadu eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol. Daeth y gweithdrefnau perthnasol
yn Neddf 2018 a Deddf 2020 i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
Teitl |
Dyddiad
Osodwyd |
8 Rhagfyr 2022 |
|
11 Awst 2022 |
|
pNeg(6)002
- Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021 |
23 Tachwedd
2021 |
pNeg(6)001
- Rheoliadau Bwyd a Diod (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE)
2021 |
29 Mehefin 2021 |
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/06/2021