Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

13.30-13.35

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

LJC(6)-09-21 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)055 - Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn drafft a derbyniodd ei adroddiad drafft.

 

2.2

SL(6)057 - Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn drafft a derbyniodd ei adroddiad drafft.

 

13.35-13.40

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)061 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 2 – Adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 3 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 1 Hydref 2021

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(6)056 - Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 4 – Adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 4a – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi’i dynnu’n ôl a’i ail-osod, ac y byddai’n ystyried fersiwn ddiwygiedig o’r offeryn yn y cyfarfod nesaf.

 

3.3

SL(6)058 – Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 5 – Adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 6 – Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, 27 Medi 2021

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

13.40-13.45

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(6)052 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 7 – Adroddiad y Pwyllgor

LJC(6)-09-21 – Papur 8 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

13.45-13.50

5.

Is-ddeddfwriaeth sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

5.1

SL(6)059 - Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Datganiadau o’r Hyn sy'n Bwysig

LJC(6)-09-21 – Papur 9 – Adroddiad drafft

 

Cod

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

5.2

SL(6)060 - Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Cynnydd

LJC(6)-09-21 – Papur 10 – Adroddiad drafft

 

Cod

Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

13.50-13.55

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Adroddiad Llywodraeth Cymru: Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws

LJC(6)-09-21 – Papur 11 – Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, 4 Hydref 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 12 – Adroddiad Llywodraeth Cymru: Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig ac adroddiad Llywodraeth Cymru.

 

6.2

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Adroddiad blynyddol ar y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol

LJC(6)-09-21 – Papur 13 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 4 Hydref 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 14 - Adroddiad blynyddol ar y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ac adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol. Nododd y Pwyllgor hefyd fod trafodaethau yn parhau rhwng swyddogion i sefydlu cytundeb newydd ar gyfer y Chweched Senedd ac y bydd manylion pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor maes o law.

 

6.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Cymru a Lloegr) 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 15 – Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, 27 Medi 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 16 – Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig, 27 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

6.4

Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

LJC(6)-09-21 – Papur 17 – Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, 1 Hydref 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 18 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor  Llywodraeth Leol a Thai, 24 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn perthynas â’r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

 

6.5

Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Weinidog yr Economi: Cytundeb rhyngwladol - Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Gwlad yr Ia, Liechtenstein a Norwy

LJC(6)-09-21 – Papur 32 – Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Weinidog yr Economi, 8 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Weinidog yr Economi.

 

6.6

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol

LJC(6)-09-21 – Papur 33 – Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, 6 October 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i’w adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurder pellach ynghylch yr ymateb i rai o’i argymhellion.

 

6.7

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cydsyniad i wneud Gorchymyn o dan adran 104 o Ddeddf yr Alban 1998

LJC(6)-09-21 – Papur 34 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, 8 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

13.55

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

13.55-14.05

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - trafod yr adroddiad drafft.

LJC(6)-09-21 – Papur 19 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

14.05-14.15

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 20 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth a Dyfeisio Blaengar a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

14.15-14.30

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 21 – Adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 22 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 1 Hydref 2021

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a chytunodd i gwblhau'r adroddiad y tu allan i’r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

14.30-14.45

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 23 – Adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 24 – Llythyr at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 23 Mawrth 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

14.45-15.00

12.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladu a chytunodd i wahodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i roi tystiolaeth mewn perthynas â’r Memoranda, ac mewn perthynas â’r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

 

15.00-15.15

13.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Rheoli Cymorthdaliadau

 

LJC(6)-09-21 – Papur 26 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

15.15-15.25

14.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

 

LJC(6)-09-21 – Papur 27 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

15.25-15.30

15.

Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 4 Hydref 2021 - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 28 – Adroddiad drafft

LJC(6)-09-21 – Papur 29 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 4 Hydref 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 30 – Llythyr at y Prif Weinidog, 20 Medi 2021

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd yn ei gyfarfod ar 4 Hydref 2021, a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi ar Prif Weinidog at ei adroddiad.  Nododd y Pwyllgor hefyd y llythyr gan y Prif Weinidog ar ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol, a chytunodd i’w rannu gyda’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

 

15.30-15.45

16.

Dull strategol cylch gwaith a blaenraglen waith y Pwyllgor

LJC(6)-09-21 – Papur 31 – Papur cynllunio strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei amcanion strategol a’i flaenraglen waith ar gyfer y misoedd i ddod.