Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cymwysterau Proffesiynol

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cymwysterau Proffesiynol

Cyflwynwyd y Bil Cymwysterau Proffesiynol (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 12 Mai 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth yn ymwneud â’r hawl i ymarfer rhai proffesiynau, galwedigaethau a chrefftau; a dibenion cysylltiedig.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Gwrthodwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Chwefror 2022.

 

Gwrthodwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2021.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Mawrth 2022

 

Ar 16 Mawrth 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 189KB).

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Rhagfyr 2021

 

Ar 6 Rhagfyr 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 130KB).

 

Cytunodd (PDF 41.5KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 10 Chwefror 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Cymwysterau Proffesiynol (PDF 166KB) ar 28 Ionawr 2022. Ymatebodd (PDF 292KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 15 Chwefror 2022.

 

Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (130 KB) ar 8 Chwefror 2022. Ysgrifennodd (PDF 77KB) Cadeirydd y Pwyllgor hefyd at y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, i ofyn am wybodaeth bellach cyn y cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn, a chafodd ymateb (PDF 331KB) ar 11 Chwefror 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mehefin 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 152KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 17 Mehefin 2021.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 30 Medi 2021. (PDF 43.6KB)

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar 12 Awst 2021 yn ymwneud â’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Ymatebodd y Gweinidog ar 10 Medi 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Cymwysterau Proffesiynol (PDF 272KB) ar 30 Medi 2021. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 6 Hydref 2021.

 

Gosododd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 120KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 28 Medi 2021. Ysgrifennodd y pwyllgor hwnnw hefyd (PDF 175KB) at y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ar 28 Medi 2021, a chafodd ymateb (PDF 275KB) ar 4 Hydref 2021

 

Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (130 KB) ar 8 Chwefror 2022. Ysgrifennodd y pwyllgor hwnnw hefyd (PDF 76KB) at y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, i ofyn am wybodaeth bellach cyn y cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2021

Dogfennau