Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Cyflwynwyd y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 8 Mehefin 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth ar gyfer lles rhai anifeiliaid penodol a gedwir ym Mhrydain Fawr, neu a gaiff eu mewnforio oddi yma.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Ionawr 2022

 

Ar 7 Ionawr 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 258KB).

 

Cytunodd (PDF 41.9KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 3 Mawrth 2022.

 

Yn y cyfarfod ar 15 Chwefror 2022, cytunodd (PDF 43.9KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 17 Mawrth 2022.

 

Ar 3 Mawrth 2022, gosododd Llywodraeth Cymru fersiwn ddiwygiedig o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 306KB) hwn.

 

Yn y cyfarfod ar 1 Mawrth 2022, cytunodd (PDF 43.3KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 31 Mawrth 2022.

 

Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (145 KB) ar 30 Mawrth 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 226KB) ar 4 Ebrill 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mehefin 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 200KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 22 Mehefin 2021.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 14 Hydref 2021. (PDF 43.7KB)

 

Yn y cyfarfod ar 5 Hydref 2021, cytunodd (PDF 42.4KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 11 Tachwedd 2021.


Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 224KB) ar 19 Hydref 2021. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad (PDF 345KB) ar 24 Tachwedd 2021

 

Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad ar 8 Hydref 2021

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2021

Dogfennau