Penderfyniadau

Dadleuon gan Aelodau unigol

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

10/03/2016 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.42

NDM4945

Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad yw'r prif achos o farwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed;

2. Yn cydnabod bod pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac amcangyfrifir bod gan 90 y cant o bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n marw o ganlyniad i hunanladdiad un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl;

4. Yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl i siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar eu pen eu hunain;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwella'r broses o gasglu data i adnabod y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf;

b) sicrhau bod cymorth dilynol ar gael i bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl hunan-niwed neu geisio cyflawni hunanladdiad;

c) darparu ffyrdd mwy effeithiol o gyfeirio pobl at wasanaethau gwrando ac eiriolaeth;

d) edrych ar gyflawni prosiectau megis y parth tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y gad mewn ffordd sy'n briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac

e) asesu'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd unigolion sydd â salwch meddwl.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


11/02/2016 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.03

NNDM5942

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Elin Jones (Ceredigion)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi'u cau yng Nghymru ac, yn arbennig, pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed pan mai’r gangen banc yw'r banc olaf yn yr ardal.

2. Yn galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau banc ar gymunedau trefol a gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach, cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ynghylch eu cau.

3. Yn galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnwys sefydliadau cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes cyn dod i benderfyniadau terfynol ynghylch cau canghennau, yn enwedig pan mai’r gangen banc dan sylw yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ardal.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc wrth lunio eu polisïau perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd a rheoleiddio ariannol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


10/12/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.04

NDM5885

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Eluned Parrott (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i addysg a datblygiad ein pobl ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu rhinwedd eu hunain, ond gan hefyd helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan ysgogi eu dychymyg a'u creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell dealltwriaeth o bobl eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill;

2. Yn nodi â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol dros y degawd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cerddorol anstatudol;

3. Yn nodi casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y ddarpariaeth bresennol a'r anghydraddoldeb cynyddol o ran cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau; a

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar addysg gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu cynnal er gwaethaf gostyngiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


03/12/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.05

NDM5881

David Rees (Aberafan)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur i economi Cymru;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant dur yn ystod y cyfnod anodd hwn; a

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys ar nifer o feysydd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r costau ynni uchel a wynebir gan y diwydiannau ynni dwys yng Nghymru, megis y diwydiant dur, er mwyn sicrhau y gallant gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr Ewropeaidd eraill o fewn marchnad fyd-eang.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


15/10/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.55

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5832

Mick Antoniw (Pontypridd) R

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn ymfalchïo yn y berthynas dda sydd wedi'i sefydlu yng Nghymru rhwng cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat; a

 

2. Yn credu:

a) bod Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn ymosodiad diangen ar hawliau democrataidd pobl sy'n gweithio ac y bydd yn tanseilio'r cysylltiadau diwydiannol da ac adeiladol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru ers 1999;

 

b) bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol; a

 

c) bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

11

51

Derbyniwyd y Cynnig.

 


16/07/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.50

NDM5789

 

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt y sgiliau a'r hyfforddiant i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff meithrinfeydd ac asesu opsiynau ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff sy'n gweithio mewn meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.


Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


09/07/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.01

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NNDM5799

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Alun Ffred Jones (Arfon)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a

2. Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu ar hyn.


Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

10

0

46

Derbyniwyd y Cynnig.


23/04/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 14.26

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NNDM5715

Bethan Jenkins

William Graham

Lynne Neagle

William Powell

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i

 

a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu digon o amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig;

 

b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleodd glo brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; ac

 

c) cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

16

0

46

Derbyniwyd y Cynnig.


26/03/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.01

 

NDM5713

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cyfraniad economaidd diwydiant dur Cymru a'r miloedd o swyddi y mae'n eu cefnogi;

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod y mewnforion tramor sy'n llifo i mewn i'r farchnad wedi creu sefyllfa anghyfartal; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydeinig a fydd yn arwain at sefyllfa lle bydd pob proses gaffael llywodraeth mewn perthynas â barrau atgyfnerthu dur carbon yn bodloni safon cyrchu cyfrifol BES 6001.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


19/03/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.01

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5712

 

Mick Antoniw (Pontypridd)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod technoleg ar-lein ynghyd â hysbysebu dwys wedi ysgogi twf hapchwarae yng Nghymru ac yn nodi:

 

a) bod hapchware ar gael i holl boblogaeth Cymru 24/7;

 

b) y gall hapchwarae ddod yn gaethiwed sy'n niweidiol yn gymdeithasol, gan gyfrannu at dlodi, iechyd a phroblemau cymdeithasol;

 

c) bod adnabod caethiwed a darparu cymorth yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal pobl rhag dod yn gaeth i hapchwarae;

 

d) bod y twf mewn hapchwarae ar-lein a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog wedi troi hapchwarae yn y DU i mewn i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd; ac

 

e) bod amgylchedd rheoleiddio hapchwarae yn gymharol ysgafn.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael â'r canlyniadau cymdeithasol ac iechyd sy'n deillio o hapchwarae;

 

b) ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu peiriannau hapchwarae; ac

 

c) ymgysylltu â'r diwydiant hapchwarae a'r Ymddiriedolaeth Hapchwarae Cyfrifol i sicrhau bod cyfran briodol o'r cyllid yn cael ei gwario yng Nghymru i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bod yn gaeth i hapchwarae.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

14

0

50

Derbyniwyd y cynnig.


12/02/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.12

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NNDM5683 Simon Thomas (Gorllewin a Chanolbarth Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) diwrnod cofrestru pleidleiswyr Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac wythnos genedlaethol o weithgareddau rhwng 2 a 8 Chwefror;

 

b) adroddiad y Comisiwn Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc 16-17 oed wedi cofrestru i bleidleisio.

 

c) adroddiad cynnydd y Comisiwn Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng Nghymru a Lloegr', a ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; a

 

d) llwyddiant menter ysgolion Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain at ychwanegu 57,000 o bobl ifanc (tua 50% o'r grŵp oedran) at y gofrestr.

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn gostwng ac yn cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth.

 

3. Yn galw am gamau i rymuso swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a sicrhau lefelau uwch o gyfranogiad ymhlith pobl ifanc.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

32

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gytuno y dylai'r broses o drosglwyddo enwau pobl gofrestredig a oedd wedi'u cynnwys yn y gofrestr flaenorol, nad oedd wedi cofrestru'n unigol, fod yn gymwys i gofrestr 2016 yn yr un modd ag yr oedd ar gyfer 2015.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NNDM5683 Simon Thomas (Gorllewin a Chanolbarth Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) diwrnod cofrestru pleidleiswyr Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac wythnos genedlaethol o weithgareddau rhwng 2 a 8 Chwefror;

 

b) adroddiad y Comisiwn Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc 16-17 oed wedi cofrestru i bleidleisio.

 

c) adroddiad cynnydd y Comisiwn Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng Nghymru a Lloegr', a ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; a

 

d) llwyddiant menter ysgolion Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain at ychwanegu 57,000 o bobl ifanc (tua 50% o'r grŵp oedran) at y gofrestr.

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn gostwng ac yn cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth.

 

3. Yn galw am gamau i rymuso swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a sicrhau lefelau uwch o gyfranogiad ymhlith pobl ifanc.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gytuno y dylai'r broses o drosglwyddo enwau pobl gofrestredig a oedd wedi'u cynnwys yn y gofrestr flaenorol, nad oedd wedi cofrestru'n unigol, fod yn gymwys i gofrestr 2016 yn yr un modd ag yr oedd ar gyfer 2015.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

9

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


22/01/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 16.07

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NNDM5639 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu cyflawni cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm awtistig.

 

2. Yn nodi bod angen gwneud mwy i ddiwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.

 

3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

21

0

50

Derbyniwyd y cynnig.


15/01/2015 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.47

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NNDM5630

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynlliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi:

 

a) bod menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Cymru;

 

b) ei bod bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal;

 

c) bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn y gweithle.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

32

1

54

Derbyniwyd y cynnig.

 


11/12/2014 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.53

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NNDM5636

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Alun Ffred Jones (Arfon)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cefnogi egwyddorion y Bil Cymorth i Farw.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

20

21

53

Gwrthodwyd y cynnig.

 


10/07/2014 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.47

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NNDM5536

 

Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi'r awydd llethol ymhlith cefnogwyr pêl-droed i weld cyfleusterau sefyll diogel yn cael eu cyflwyno;

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chymdeithasau chwaraeon ac awdurdodau rheoleiddio i hyrwyddo cyfleusterau sefyll ddiogel yn stadia chwaraeon yng Nghymru; ac

 

Yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno cynllun peilot ar gyfer cyfleusterau sefyll diogel yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

20

1

47

Derbyniwyd y cynnig.


15/05/2014 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 14.52

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NNDM5502

 

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r cynnig yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd i wahardd y defnydd o sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd yng Nghymru.

 

2. Yn nodi bod 2.1 miliwn o oedolion yn y DU, yn ôl amcangyfrif, yn defnyddio sigaréts electronig ar hyn o bryd.

 

3. Yn nodi bod canllawiau iechyd y cyhoedd oddi wrth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ‘Tobacco: harm-reduction approaches to smoking’ yn cefnogi’r defnydd o gynnyrch trwyddedig sy’n cynnwys nicotin i helpu pobl i ysmygu llai neu i roi'r gorau i ysmygu.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r dystiolaeth sy’n sail i’r cynigion ar sigaréts electronig, er mwyn darparu eglurder ar gyfer cyfiawnhau'r cynigion hyn ym Mil Iechyd y Cyhoedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

22

3

49

Derbyniwyd y cynnig.


27/03/2014 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.17

 

NNDM5464

 

Mick Antoniw (Pontypridd)

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn ymrwymo i chwarae ei ran lawn mewn materion Ewropeaidd; ac yn benodol:

 

a) yn cydnabod y gwerth i Gymru ac i'r UE yn sgïl ymgysylltu cadarnhaol Cymru yn Ewrop;

 

b) yn defnyddio sgiliau, profiad ac arloesedd y Llywodraeth a phobl Cymru i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, ffyniant economaidd a llywodraethu democrataidd ledled Ewrop.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


12/02/2014 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 14.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5423 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) yr effaith andwyol y mae colli eu pensiynau wedi’i chael ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy’n byw yn ardal Abertawe a’r cyffiniau;

 

b) yr effaith ddilynol y mae colli pensiynau gweithwyr Visteon wedi’i chael ar economi Abertawe a’r cyffiniau;

 

c) y bydd pum mlynedd wedi mynd heibio ar 2 Ebrill eleni ers cau Visteon fel cwmni, a bod gorymdaith fawr yn cael ei threfnu yn San Steffan; a

 

d) bod eleni’n flwyddyn bwysig i’r ymgyrch, o ystyried y bydd achos llys Unite the Union yn erbyn Ford yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain ddiwedd 2014.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i effaith colli eu pensiynau ar weithwyr Visteon ac ar economi’r ardal lle maent yn byw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

14

4

41

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


05/12/2013 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.10

NNDM5358

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi â phryder difrifol:

a) yr achosion o droseddwyr yn targedu plant agored i niwed er mwyn cam-fanteisio’n rhywiol arnynt;

b) bod plant sydd ar goll o ofal yn wynebu perygl penodol o gam-fanteisio rhywiol;

c) y dystiolaeth nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yma yn gweithredu’n llawn ganllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant sy'n mynd ar goll o ofal;

d) y gall yr arfer o leoli y tu allan i ardal olygu bod plant sy'n derbyn gofal yn wynebu mwy o berygl o gamdriniaeth a cham-fanteisio.

2. Yn cymeradwyo gwaith Prosiect Plant ar Goll Gwent ac yn nodi'r angen am ddata cymaradwy, cyson a dibynadwy ar yr achosion o blant sy'n derbyn gofal sy'n mynd ar goll o gartrefi plant a gofal maeth.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


17/10/2013 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NNDM5325 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod risg uchel llusernau awyr i ddiogelwch y cyhoedd, i adeiladau a strwythurau, ac i les anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i rinweddau cyfyngu ar ryddhau llusernau awyr yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


11/07/2013 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.00

NDM5266

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cefnogi'r ymgyrch Dim Mwy o Dudalen Tri ac yn galw ar bapur newydd The Sun i roi'r gorau i'r cynnwys hwn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


27/06/2013 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NNDM5262

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylai'r setliad datganoli fod yn seiliedig ar fodel pwerau a gedwir yn ôl.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

2

6

51

Derbyniwyd y cynnig.


16/05/2013 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5235 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod hyrwyddo diodydd egni llawn caffein i blant a phobl ifanc yn achos o bryder sylweddol i iechyd y cyhoedd; a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r pryderon iechyd sy'n ymwneud â diodydd egni llawn caffein.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

5

10

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


14/03/2013 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.42

NDM5181 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn penderfynu cefnogi'r egwyddor o gynnal gwrandawiadau cyn cadarnhau penodiadau cyhoeddus pwysig yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


07/02/2013 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.02

NDM5137

 

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Byron Davies (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod cerddwyr a gafodd eu hanafu neu eu lladd yn cynrychioli 21 y cant o nifer y bobl a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2011;

 

2. Yn cydnabod bod terfynau cyflymder o 20 milltir yr awr wedi’u profi i fod yn fuddiol i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu neu eu lladd; a

 

3. Yn galw ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20 milltir yr awr yng Nghymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


31/01/2013 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 14.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5147

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

David Rees (Aberafan)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod y manteision i Gymru o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

7

3

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


29/11/2012 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 14.29

 

NDM5096

 

Ken Skates (De Clwyd)

 

Eluned Parrott (Canol De Cymru)

 

David Melding (Canol De Cymru)

 

Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)

 

Cefnogwyd gan:

 

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod ac yn gresynu bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dioddef stigma a gwahaniaethu;

 

2. Yn croesawu Amser i Newid Cymru, sef yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn eu hwynebu;

 

3. Yn nodi’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Amser i Newid Cymru, a oedd yn dangos bod:

 

a) un ym mhob pedwar yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fod mewn swydd gyhoeddus; a

 

b) um ym mhob 10 yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael plant;

 

4. Yn cydnabod bod pobl sydd â materion iechyd meddwl yn chwarae rhan sylweddol mewn cymdeithas, yn gweithio ar draws ystod o sectorau ac yn gwneud cyfraniadau pwysig at yr economi; a

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch Amser i Newid Cymru a dangos ymrwymiad i roi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


18/10/2012 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15:13

 

NDM5020

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Russell George (Sir Drefaldwyn)

 

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:

 

1. Yn cydnabod y potensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o Aber Afon Hafren a phwysigrwydd prosiect o’r fath i Lywodraeth Cymru o ran cyflawni ei thargedau ynni adnewyddadwy, yn ogystal â’r potensial i greu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi; a

 

2. Yn credu, wrth ddatblygu ynni o’r fath, y dylid dylunio’r dechnoleg i echdynnu’r ynni gan sicrhau ei fod yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf bosibl, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol a chymesur.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


05/07/2012 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.33

 

NDM5023

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ym mhob etholiad a refferendwm a gynhelir yng Nghymru.

 

Cefnogwyd gan:

Keith Davies (Llanelli)

Christine Chapman (Cwm Cynon)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Julie James (Gorllewin Abertawe)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Canlyniad y bleidlais:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

8

51

Derbyniwyd y cynnig.

 


10/05/2012 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 14:57.

 

NDM4965

 

Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn colli golwg y mae modd ei osgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

 

Cefnogwyd gan:

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Julie James (Gorllewin Abertawe)

Lynne Neagle (Tor-faen)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

Sandy Mewies (Delyn)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Nick Ramsay (Mynwy)

Eluned Parrott (Canol De Cymru)

Keith Davies (Llanelli)

David Rees (Aberafan)

Alun Ffred Jones (Arfon)

Russell George (Sir Drefaldwyn)

Byron Davies (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


08/03/2012 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.18

 

NNDM4863

 

Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn hybu cyllid a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar alluogi ystod eang o ddulliau teithio cynaliadwy a charbon isel mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol.

 

Gyda chefnogaeth:

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 


26/01/2012 - Individual Members Debate

Dechreuodd yr eitem am 15.04

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


08/12/2011 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


19/10/2011 - Dadl gan Aelod unigol, o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

13

15

52

Derbyniwyd y cynnig.