Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NNDM5536
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r awydd llethol ymhlith cefnogwyr
pêl-droed i weld cyfleusterau sefyll diogel yn cael eu cyflwyno;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos
gyda chymdeithasau chwaraeon ac awdurdodau rheoleiddio i hyrwyddo cyfleusterau
sefyll ddiogel yn stadia chwaraeon yng Nghymru; ac
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno
cynllun peilot ar gyfer cyfleusterau sefyll diogel yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
20 |
1 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 10/07/2014
Dyddiad y penderfyniad: 09/07/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad