Manylion y penderfyniad

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Rheolau Sefydlog 11.21:

Rhaid trefnu amser ar gael ym mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:

 

(iv) cynigion a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

NNDM5942

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Elin Jones (Ceredigion)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi'u cau yng Nghymru ac, yn arbennig, pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed pan mai’r gangen banc yw'r banc olaf yn yr ardal.

2. Yn galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau banc ar gymunedau trefol a gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach, cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ynghylch eu cau.

3. Yn galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnwys sefydliadau cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes cyn dod i benderfyniadau terfynol ynghylch cau canghennau, yn enwedig pan mai’r gangen banc dan sylw yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ardal.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc wrth lunio eu polisïau perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd a rheoleiddio ariannol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2016

Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad