Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.02
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5235
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod hyrwyddo diodydd egni llawn caffein
i blant a phobl ifanc yn achos
o bryder sylweddol i iechyd y cyhoedd; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r pryderon iechyd sy'n ymwneud â diodydd egni llawn
caffein.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
5 |
10 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei
ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 16/05/2013
Dyddiad y penderfyniad: 15/05/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad