Manylion y penderfyniad

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Rheolau Sefydlog 11.21:

Rhaid trefnu amser ar gael ym mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:

 

(iv) cynigion a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

NDM5885

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Eluned Parrott (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i addysg a datblygiad ein pobl ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu rhinwedd eu hunain, ond gan hefyd helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan ysgogi eu dychymyg a'u creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell dealltwriaeth o bobl eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill;

2. Yn nodi â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol dros y degawd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cerddorol anstatudol;

3. Yn nodi casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y ddarpariaeth bresennol a'r anghydraddoldeb cynyddol o ran cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau; a

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar addysg gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu cynnal er gwaethaf gostyngiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 10/12/2015

Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad