Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5832
Mick Antoniw
(Pontypridd) R
Rhodri Glyn
Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Peter Black
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn ymfalchïo yn y berthynas dda sydd wedi'i sefydlu yng Nghymru rhwng
cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat;
a
2.
Yn credu:
a)
bod Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn ymosodiad diangen ar hawliau
democrataidd pobl sy'n gweithio ac y bydd yn tanseilio'r cysylltiadau
diwydiannol da ac adeiladol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru ers 1999;
b)
bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a
chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol; a
c)
bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac
na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd y Cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 15/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 14/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad