Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.42
NDM4945
Eluned Parrott (Canol De
Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod rhwng 300 a 350 o
bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, gyda'r
ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad yw'r prif achos o farwolaeth
ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed;
2. Yn cydnabod bod pobl sydd wedi cael diagnosis o
gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac amcangyfrifir bod gan 90 y cant o
bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n marw o ganlyniad i hunanladdiad un
neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl;
4. Yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl i
siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth
a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar
eu pen eu hunain;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwella'r broses o gasglu data i adnabod y rhai
sy'n wynebu'r perygl mwyaf;
b) sicrhau bod cymorth dilynol ar gael i bobl sy'n
mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl hunan-niwed neu geisio
cyflawni hunanladdiad;
c) darparu ffyrdd mwy effeithiol o gyfeirio pobl at
wasanaethau gwrando ac eiriolaeth;
d) edrych ar gyflawni prosiectau megis y parth
tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y gad mewn ffordd sy'n
briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac enghreifftiau cenedlaethol a
rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac
e) asesu'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd
unigolion sydd â salwch meddwl.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 10/03/2016
Dyddiad y penderfyniad: 09/03/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad