Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5630
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynlliad
Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) bod menywod wedi gwneud
cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o
economi Cymru;
b) ei bod bron i 100 mlynedd
ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog
Cyfartal;
c) bod gan Lywodraeth Cymru
ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn
digwydd yn y gweithle.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i
gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
32 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 15/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 14/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad