Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.10
NNDM5358
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder difrifol:
a) yr achosion o droseddwyr yn targedu plant agored i
niwed er mwyn cam-fanteisio’n rhywiol arnynt;
b) bod plant sydd ar goll o ofal yn wynebu perygl
penodol o gam-fanteisio rhywiol;
c) y dystiolaeth nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru hyd
yma yn gweithredu’n llawn ganllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant sy'n
mynd ar goll o ofal;
d) y gall yr arfer o leoli y tu allan i ardal olygu bod
plant sy'n derbyn gofal yn wynebu mwy o berygl o gamdriniaeth a cham-fanteisio.
2. Yn cymeradwyo gwaith Prosiect Plant ar Goll Gwent ac
yn nodi'r angen am ddata cymaradwy, cyson a dibynadwy ar yr achosion o blant
sy'n derbyn gofal sy'n mynd ar goll o gartrefi plant a gofal maeth.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 05/12/2013
Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad