Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NDM5881
David Rees (Aberafan)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur i economi
Cymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i wneud
popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant dur yn ystod y cyfnod anodd hwn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys
ar nifer o feysydd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r costau ynni uchel a wynebir
gan y diwydiannau ynni dwys yng Nghymru, megis y diwydiant dur, er mwyn sicrhau
y gallant gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr Ewropeaidd eraill o fewn marchnad
fyd-eang.
Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2015
Dyddiad y penderfyniad: 02/12/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad