Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5712
Mick Antoniw (Pontypridd)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
cydnabod bod technoleg ar-lein ynghyd â hysbysebu dwys wedi ysgogi twf
hapchwarae yng Nghymru ac yn nodi:
a) bod
hapchware ar gael i holl boblogaeth Cymru 24/7;
b) y
gall hapchwarae ddod yn gaethiwed sy'n niweidiol yn gymdeithasol, gan gyfrannu
at dlodi, iechyd a phroblemau cymdeithasol;
c) bod
adnabod caethiwed a darparu cymorth yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal pobl
rhag dod yn gaeth i hapchwarae;
d) bod y
twf mewn hapchwarae ar-lein a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog wedi troi
hapchwarae yn y DU i mewn i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd; ac
e) bod
amgylchedd rheoleiddio hapchwarae yn gymharol ysgafn.
2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael â'r canlyniadau cymdeithasol
ac iechyd sy'n deillio o hapchwarae;
b)
ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu
peiriannau hapchwarae; ac
c) ymgysylltu â'r diwydiant hapchwarae a'r
Ymddiriedolaeth Hapchwarae Cyfrifol i sicrhau bod cyfran briodol o'r cyllid yn
cael ei gwario yng Nghymru i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bod yn
gaeth i hapchwarae.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
14 |
0 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 18/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad