Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.29
NDM5096
Ken Skates (De Clwyd)
Eluned Parrott (Canol
De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd
Cymru)
Cefnogwyd gan:
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ac yn gresynu bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dioddef stigma a gwahaniaethu;
2. Yn croesawu Amser i Newid Cymru, sef yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn eu hwynebu;
3. Yn nodi’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Amser i Newid Cymru, a oedd yn dangos bod:
a) un ym mhob pedwar yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fod mewn swydd gyhoeddus; a
b) um ym mhob 10 yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael plant;
4. Yn cydnabod bod pobl sydd â materion iechyd meddwl yn chwarae rhan sylweddol mewn cymdeithas, yn gweithio ar draws ystod o sectorau ac yn gwneud cyfraniadau pwysig at yr economi; a
5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch Amser i Newid Cymru a dangos ymrwymiad i roi terfyn ar
y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd
meddwl.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 29/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad