Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5715
Bethan Jenkins
William Graham
Lynne Neagle
William Powell
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled
Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu
digon o amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig;
b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleodd glo
brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â
phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; ac
c) cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt
i wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
16 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y
Cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 23/04/2015
Dyddiad y penderfyniad: 22/04/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad