Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NNDM5683 Simon Thomas (Gorllewin a Chanolbarth
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi:
a) diwrnod cofrestru
pleidleiswyr Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac wythnos genedlaethol o
weithgareddau rhwng 2 a 8 Chwefror;
b) adroddiad y Comisiwn
Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a
ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc 16-17 oed wedi cofrestru i bleidleisio.
c) adroddiad cynnydd y
Comisiwn Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng Nghymru a
Lloegr', a ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd wedi cofrestru
i bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; a
d) llwyddiant menter ysgolion
Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain at ychwanegu 57,000 o bobl
ifanc (tua 50% o'r grŵp oedran) at y gofrestr.
2. Yn gresynu at y ffaith bod
nifer y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn gostwng ac
yn cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth.
3. Yn galw am gamau i rymuso
swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer y bobl sydd
wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a sicrhau lefelau
uwch o gyfranogiad ymhlith pobl ifanc.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
32 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gytuno y dylai'r broses o
drosglwyddo enwau pobl gofrestredig a oedd wedi'u cynnwys yn y gofrestr
flaenorol, nad oedd wedi cofrestru'n unigol, fod yn gymwys i gofrestr 2016 yn
yr un modd ag yr oedd ar gyfer 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NNDM5683 Simon Thomas (Gorllewin a Chanolbarth
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) diwrnod cofrestru
pleidleiswyr Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac wythnos genedlaethol o
weithgareddau rhwng 2 a 8 Chwefror;
b) adroddiad y Comisiwn
Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a
ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc 16-17 oed wedi cofrestru i bleidleisio.
c) adroddiad cynnydd y
Comisiwn Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng Nghymru a
Lloegr', a ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd wedi
cofrestru i bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; a
d) llwyddiant menter ysgolion
Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain at ychwanegu 57,000 o bobl
ifanc (tua 50% o'r grŵp oedran) at y gofrestr.
2. Yn gresynu at y ffaith bod
nifer y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn gostwng ac
yn cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth.
3. Yn galw am gamau i rymuso
swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer y bobl sydd
wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a sicrhau lefelau
uwch o gyfranogiad ymhlith pobl ifanc.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU
i gytuno y dylai'r broses o drosglwyddo enwau pobl gofrestredig a oedd wedi'u
cynnwys yn y gofrestr flaenorol, nad oedd wedi cofrestru'n unigol, fod yn
gymwys i gofrestr 2016 yn yr un modd ag yr oedd ar gyfer 2015.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
9 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 11/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad