Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.01
NDM5713
Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad economaidd diwydiant dur Cymru a'r miloedd
o swyddi y mae'n eu cefnogi;
2. Yn gresynu at y ffaith bod y mewnforion tramor sy'n
llifo i mewn i'r farchnad wedi creu sefyllfa anghyfartal; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r siarter ar
gyfer dur cynaliadwy Prydeinig a fydd yn arwain at sefyllfa lle bydd pob proses
gaffael llywodraeth mewn perthynas â barrau atgyfnerthu dur carbon yn bodloni
safon cyrchu cyfrifol BES 6001.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 26/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad