Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NDM5137
Joyce Watson (Canolbarth
a Gorllewin Cymru)
Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Byron Davies (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod cerddwyr a gafodd eu hanafu neu eu lladd yn cynrychioli 21 y cant o
nifer y bobl a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar
y ffyrdd yng Nghymru yn 2011;
2.
Yn cydnabod bod terfynau cyflymder o 20 milltir yr awr wedi’u profi i fod yn
fuddiol i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu neu eu lladd; a
3.
Yn galw ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20 milltir yr awr yng
Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 06/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad