Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 14.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NNDM5502
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig yn ymgynghoriad Llywodraeth
Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd i wahardd y defnydd o sigaréts
electronig mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod 2.1 miliwn o oedolion yn y DU,
yn ôl amcangyfrif, yn defnyddio sigaréts electronig ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod canllawiau iechyd y cyhoedd oddi
wrth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ‘Tobacco:
harm-reduction approaches to smoking’ yn cefnogi’r defnydd o gynnyrch
trwyddedig sy’n cynnwys nicotin i helpu pobl i ysmygu llai neu i roi'r gorau i
ysmygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r
dystiolaeth sy’n sail i’r cynigion ar sigaréts electronig, er mwyn darparu
eglurder ar gyfer cyfiawnhau'r cynigion hyn ym Mil Iechyd y Cyhoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
22 |
3 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad