Manylion y penderfyniad

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Rheolau Sefydlog 11.21:

Rhaid trefnu amser ar gael ym mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:

 

(iv) cynigion a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.07

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NNDM5639 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu cyflawni cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm awtistig.

 

2. Yn nodi bod angen gwneud mwy i ddiwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.

 

3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

21

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 22/01/2015

Dyddiad y penderfyniad: 21/01/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad